Agoriad yr Arddangosfa ar Fywyd yr Iddewon 鈥 Gyda Derbyniad Cosher
Mae Goleufa Cymru wedi dyfarnu 拢19,000 i Dr Nathan Abrams o Ysgol Astudiaethau Creadigol Prifysgol 黑料不打烊 a Dr Sally Baker o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, gan gydweithredu ag Esther Roberts o Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, i gynnal arddangosfa deithiol ar fywyd yr Iddewon yng Ngogledd Cymru. Trwy鈥檙 arddangosfa hon, caiff pobl leol gyfle i ddysgu am hanes yr Iddewon yng Ngogledd Cymru. Mae Iddewon yn byw yng Ngogledd Cymru ers o leiaf ganrif a hanner, ac wedi chwarae rhan bwysig yn ei hanes. Er enghraifft, roedd Isidore Wartski yn faer ar Fangor, ac ef oedd y maer Iddewig cyntaf yng Nghymru. Cynhelir yr arddangosfa mewn cyfuniad o leoliadau o fewn Prifysgolion ac adeiladau cyhoeddus ar draws Gogledd Cymru. Cynhelir hefyd gyfres o weithdai yn y Brifysgol, ac mewn lleoliadau ac ysgolion yn y cylch.
Mae Sally and Nathan wedi derbyn gwahoddiad gan Yr Adran Astudaiethau Crefyddol, Coleg Menai 黑料不打烊, i gyflwno eu hymchwil yn benodol i fyfyrwyr Lefel 鈥楢鈥 sydd ar hyn o bryd yn astudio Iddewiaeth ac hefyd i aelodau staff y Coleg.
Mae鈥檙 arddangosfa eisoes wedi teithio i Flaenau Ffestiniog, a Darllenfa Shankland ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau, Prifysgol 黑料不打烊, Ffordd y Coleg fydd ei lleoliad nesaf. Cynhelir derbyniad i nodi ei hagoriad nos Iau 14 Hydref o 7 tan 8.30pm. Bydd lluniaeth cosher ar gael, fel y caiff pobl gyfle i ddysgu am y cyfreithiau dietegol Iddewig (cashrwt) ac i flasu bwyd Iddewig. Bydd yr arddangosfa鈥檔 parhau tan 30 Hydref, cyn teithio i Bwllheli.
Mae mynediad i鈥檙 arddangosfa am ddim ac mae hi鈥檔 agored i bawb, beth bynnau eu cefndir crefyddol neu ddiwylliannol.
Mae鈥檙 project yn datblygu mwy o gysylltiadau rhwng Prifysgol 黑料不打烊 a鈥檙 gymuned ehangach. Caiff pobl leol gyfle i weithio gydag academyddion, fel y gall y rhai sydd heb gael cyswllt blaenorol 芒 phrifysgol sylweddoli nad 鈥榯yrau ifori鈥, yn syml, mohonynt. Bydd ymwelwyr 芒鈥檙 arddangosfa yn dysgu nad yw hanes yn rhywbeth sy鈥檔 digwydd i bobl eraill, nac yn ymwneud yn unig 芒 phobl 鈥榖wysig鈥 neu 鈥榓dnabyddus鈥, ond, yn hytrach, eu bod hwythau鈥檔 ymwneud eu hunain 芒 chreu hanes. Bydd y gwaith o gasglu cyfweliadau llafar ar hanes hefyd yn galluogi aelodau鈥檙 cyhoedd i gymryd rhan mewn recordio atgofion. C芒nt hefyd gyfle i ddysgu sut i ymh茅l 芒 hanes lleol.
Yn ddiweddar, bu Sally a Nathan yn cyflwyno eu prif broject ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd yn Senedd Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghaerdydd.
Meddai Nathan a Sally, 鈥淢ae鈥檔 bleser gennym ein bod wedi ennill y wobr hon, a fydd yn rhoi inni gyfle nid yn unig i ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd, ond hefyd i gyflwyno ein hymchwil i gynulleidfa ehangach. Rydym yn gobeithio鈥檔 wirioneddol y bydd yn annog pobl i gymryd rhan, ac i ymwneud 芒 hanes lleol a hanes llafar drostynt eu hunain, p鈥檜n a fyddo鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 Iddewon neu beidio.鈥
Mae Goleufeydd ar gyfer Ymgysylltu 芒鈥檙 Cyhoedd yn ganolfannau cydweithredol o fewn prifysgolion sy鈥檔 cynorthwyo i gefnogi, adnabod ac adeiladu鈥檙 gallu ar gyfer gwaith ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd ar draws y DU. Ceir chwe Goleufa ar draws y DU ac un Ganolfan Gydlynu Genedlaethol. Meddai Goleufeydd Cymru, 鈥淢ae鈥檔 bleser gennym gefnogi Nathan a Sally yn eu gwaith gyda chymunedau yng Ngogledd Cymru i agor yr astudiaeth ar hanes yr Iddewon i gynulleidfa lawer ehangach. Nid rhyfeloedd a gwleidyddiaeth uchel yn unig yw hanes ond, yn hytrach, profiadau ac atgofion pobl bob dydd 鈥 gwych o beth yw gweld Prifysgol 黑料不打烊 yn annog pobl leol i gymryd rhan yn y gwaith o ysgrifennu eu hanesion eu hunain, gan ddod 芒 phrifysgolion a鈥檙 cyhoedd yn nes at ei gilydd.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2010