Ail-greu Organ 鈥楪anoloesol鈥 i gwblhau Eglwys Ganoloesol
Ffr芒m dderw'r organ yn cyrraedd Mae offeryn cerdd unigryw i鈥檞 ddadorchuddio yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar 8-9 Ebrill. Mae鈥檙 organ addurnedig, sydd 芒 sain wahanol iawn i鈥檙 organ eglwys fodern, yn ail-greu鈥檙 organ ganoloesol sydd, erbyn hyn, wedi鈥檌 cholli. Bydd yn ail-greu sain ddilys cerddoriaeth eglwysig yr oesoedd canol, ac yn cwblhau鈥檙 tu fewn i Eglwys Ganoloesol Teilo Sant yn Sain Ffagan.
Mae鈥檙 organ wedi鈥檌 seilio ar ychydig ddarnau organ ganoloesol sydd wedi goroesi, ac wedi鈥檌 hadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau a thechnegau cynhyrchu traddodiadol, a chan ddefnyddio鈥檙 ymchwil fwyaf blaengar ac 鈥榓rcheoleg greadigol鈥 i ail-greu sain golledig yr organ canoloesol.
Bydd yr organ yn cael ei lansio鈥檔 gyhoeddus gyda gweithdy a chyflwyniadau ar 8-9 Ebrill yn Eglwys Teilo Sant, sydd hithau wedi鈥檌 hail-adeiladu yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan.
Yr organ wedi'i rhoi at ei gilydd Mae croeso i bawb ddod i鈥檙 lansiad. Cynhelir gweithdy ymarferol ddydd Gwener 8 Ebrill am 10.30-12.30, ac am 14.00-16.00, a chyflwyniad cyffredinol ddydd Sadwrn am 10.30-11.15, ac eto am 11.45-12.30. Fodd bynnag, oherwydd y prinder lle, mae鈥檔 rhaid cadw lle o flaen llaw drwy gysylltu 芒 Keith Beasley, drwy e-bost at k.beasley@bangor.ac.uk neu ar y ff么n: 01248 382490.
Dyma un o ganlyniadau pwysig cyntaf y project ymchwil: Y Profiad o Addoli, sy鈥檔 cael ei gyllido gan Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau a鈥檙 Cyngor Ymchwil Economaidd a Cymdeithasol. Cynhelir y project mewn cydweithrediad agos 芒 Sain Ffagan ac Eglwys Gadeiriol Caersallog.
Fel yr esbonia鈥檙 Athro John Harper, sy鈥檔 arwain y Project o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol 黑料不打烊: 鈥淵 nod yw ymchwilio i鈥檙 hyn yr oedd y profiad o addoli yn ei olygu yn y cyfnod Canoloesol Diweddar, i鈥檙 rhai a oedd yn cymryd rhan, a sut y gallem gysylltu ein profiad presennol o鈥檙 eglwysi canoloesol sydd wedi goroesi 芒鈥檙 testunau, arteffactau a cherddoriaeth a ddefnyddiwyd ynddynt. Mae hynny鈥檔 cynnwys yr organ ganoloesol ddiweddar, sydd bron heb unrhyw 么l ym Mhrydain 鈥 er bod dogfennau a cherddoriaeth yn profi iddi gael defnydd eang yn yr Eglwys yn ystod y cyfnod.鈥
Esbonia鈥檙 Athro John Harper ymhellach: 鈥淢ae鈥檙 organ yn ymgais i ail-greu鈥檙 math o offeryn rydym yn gwybod iddo gael ei defnyddio oddeutu 1520, cyfnod y mae Eglwys Teilo Sant wedi鈥檌 haddurno a鈥檌 ddodrefnu i鈥檞 adlewyrchu.鈥
Dyluniwyd ac adeiladwyd yr organ yng ngweithdy Goetze a Gwynn, sydd 芒 phrofiad helaeth o organau hanesyddol. Mae鈥檙 cas derw yn ffurf sylfaenol ar yr unig gas organ o Ynysoedd Prydain sy鈥檔 dyddio o adeg cyn y Diwygiad Protestannaidd, ac sy鈥檔 dal i sefyll yn Eglwys Plwyf Pen Graig (Old Radnor) ym Mhowys. Mae鈥檙 pibau鈥檔 seiliedig ar enghreifftiau cynnar o Dde Orllewin Lloegr 鈥 wedi鈥檜 dewis oherwydd y cysylltiadau masnachol efo Cymru ar draws M么r Hafren. Mae鈥檙 fegin sy鈥檔 cael ei gweithio 芒 llaw i ddarparu gwynt i鈥檙 organ yn seiliedig ar ddarluniau o鈥檙 cyfnod.
Mae drysau鈥檙 organ wedi鈥檜 haddurno鈥檔 ysblennydd 鈥 芒 phaentiadau o olygfeydd ar Cyfarchiad a鈥檙 Enedigaeth, unwaith eto鈥檔 defnyddio deunyddiau dilys o ddechrau鈥檙 16eg ganrif. Gwnaethpwyd y gwaith gan Fleur Kelly, arbenigydd wedi 鈥榠 hyfforddi yn Yr Eidal mewn technegau paentio o鈥檙 oesoedd canol a鈥檙 dadeni. Bydd ei gwaith ar sgr卯n y grog a鈥檙 paneli eisoes yn gyfarwydd i ymwelwyr i sant Teilo.
Bydd yr organ yn caniat谩u ymchwil newydd i repertoire organ ac organ a llais y cyfnodau Canoloesol Diweddar a Modern Cynnar ym Mhrydain.
Mae ganddi ddwy allweddell efo ystodau gwahanol, yr ail i ddangos newidiadau mewn ymarfer yn y cyfnod Tuduraidd diweddar. Er mai鈥檙 syniad yw i sant Teilo fod yn gartref parhaol i鈥檙 organ, mae wedi鈥檌 chynllunio i鈥檞 symud fel ei bod ar gael mewn mannau eraill ar gyfer defnydd arbenigol, ymestyn allan yn addysgol, dysgu uwch ac ymchwil. Mae cyfnod preswyl ar y gweill i鈥檙 organ yn Eglwys Gadeiriol 黑料不打烊 yn gynnar yn 2012.
I weld a chlywed yr organ cliciwch ac .
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2011