Alumnus Prifysgol 黑料不打烊 yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol
Datganiad gan yr Eisteddfod
Guto Dafydd yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ac fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn heddiw.
Erbyn hyn, mae Guto wedi hen arfer 芒 sefyll mewn seremon茂au Eisteddfodol, gan iddo ennill y Goron ddoe, ynghyd 芒 Choron Eisteddfod Genedlaethol Sir G芒r yn 2014 a Gwobr Goffa Daniel Owen ddwy flynedd yn ddiweddarch yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy.
Tasg yr wyth a ymgeisiodd oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn stor茂ol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr yw Medal Goffa Daniel Owen, yn rhoddedig gan Ross a Susan Morgan, Llanrwst, a 拢5,000, (拢3,500 er cof am Olwen Mai Williams, Foel, Cwm Penmachno gan ei theulu, 拢1,000 Gwasg Carreg Gwalch, a 拢500 gan Ymddiriedolaeth D Tecwyn Lloyd)
Y beirniaid oedd Haf Llewelyn, Dyfed Edwards a Llwyd Owen, ac wrth draddodi鈥檙 feirniadaeth dywedodd Haf Llewelyn, 鈥淯n yn unig oedd yn y ras, ac roedd y tri ohonom yn hollol gyt没n ar hynny - Carafanio - Arglwydd Diddymdra
鈥淲edi profi teimladau cymysg wrth fynd trwy'r saith ymgais flaenorol, roedden ni'n eithaf pryderus, gan nad oedden ni'n awyddus i'ch amddifadu o enillydd. Ond dyna droi at dudalen gyntaf 'Carafanio', a daeth ton o ryddhad droson ni.
鈥淣id mewn cae ar wah芒n y mae'r awdur hwn, ond yn hytrach ar gyfandir.
鈥淢yfyrdod ar fywyd ydi'r nofel, myfyrdod am y pethau hynny sy'n bryder i ni, ond nid oes ymdrybaeddu mewn angst nac ing, dim ond ei dweud hi fel y mae, yn goeglyd, ddychanol. Hanes teulu yn mynd ar wyliau carafanio sydd yma, does yna ddim stori fawr i'w dweud, na digwyddiadau ysgytwol, does yna 'run gangster na ditectif. A dyna fawredd y nofel, stori am fyw ydi hi - sylwadau craff am y natur ddynol, am ddyheadau a disgwyliadau, ac am ein stad fydol, fregus.
鈥淎peliodd yr arddull wrthrychol ataf yn syth, bron nad ydy'r awdur yn ysbio o bell ar ei destun, yn ei watwar, yn cynnig sylwadau miniog amdanom ni Gymry, ac am ddynoliaeth yn ehangach.
鈥淢补别&苍产蝉辫;Arglwydd diddymdra hefyd yn acrobat ieithyddol, yn llwyddo i ddefnyddio 'aeldlws' a 'getaw锚' yn yr un frawddeg; yn hyderus i fathu ansoddeiriau fel 'hir-locsynnog' - dan ei ofal mae'r Gymraeg yn heini, yn gallu cyffwrdd pob emosiwn, yn dawnsio ac yn gwneud tin dros ben, yn iaith fodern aml-haenog, ac yn hwyl.
鈥淢补别&苍产蝉辫;Carafanio yn nofel onest, yn glyfar, yn ddeifiol - weithiau'n hiraethus, ac yn ei chwmni, cefais blyciau o chwerthin yn uchel, o nodio a phorthi, o dristau weithiau, ac anobeithio, ond yn ei chwmni cefais brofi rhyddiaith ar ei orau. Llongyfarchiadau calonog felly a diolch i'r Arglwydd hwn am ein hachub rhag y diddymdra.鈥
Daw Guto鈥檔 wreiddiol o Drefor. Mae鈥檔 byw ym Mhwllheli gyda鈥檌 wraig, Lisa, a鈥檙 plant, Casi a Nedw.
Bu鈥檔 cystadlu鈥檔 frwd mewn eisteddfodau bach a mawr ers blynyddoedd. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2013, Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014, a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2016. Ysgrifennodd y geiriau ar gyfer A Oes Heddwch, cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol 2017.
Mae wedi darllen ei waith mewn degau o festr茂oedd, tafarndai, llyfrgelloedd, ysgolion a neuaddau, a thrafod llenyddiaeth yn aml mewn amryw gyhoeddiadau ac ar y teledu, y radio a鈥檙 we. Cyhoeddodd nifer o lyfrau, gan gynnwys cyfrol o farddoniaeth (Ni Bia鈥檙 Awyr) a dwy nofel (Stad ac Ymbelydredd, a enillodd Wobr Barn y Bobl, Llyfr y Flwyddyn 2017).
Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol 黑料不打烊. Mae鈥檔 gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg. Ef yw trysorydd Eisteddfod Gadeiriol y Ff么r, ac mae鈥檔 mwynhau rhedeg, mynd am dro, a charafanio.
Gellir prynu鈥檙 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy鈥檔 cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd 芒 manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi鈥檙 Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni鈥檙 Cadeirio brynhawn Gwener.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy tan 10 Awst, Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Awst 2019