Amgylchedd 鈥淒osbarth Cyntaf鈥 Prifysgol 黑料不打烊
Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn parhau i gryfhau ei pherfformiad amgylcheddol. Yn dilyn archwiliad annibynnol trylwyr o鈥檌 pholis茂au a鈥檌 dulliau gweithredu, mae鈥檙 Brifysgol wedi llwyddo i gyrraedd Lefel 4 Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd, sydd yn dipyn o gamp.
Mae hyn yn adeiladu ar y Lefel 3 y mae鈥檙 Brifysgol wedi llwyddo i鈥檞 chyrraedd am y ddwy flynedd ddiwethaf, ac mae鈥檔 garreg filltir o bwys ar y llwybr tuag at nod y Brifysgol o gyrraedd Lefel 5 鈥 Gwobr uchaf y Ddraig Werdd, ac ennill tystysgrif ISO14001. Yn ogystal 芒 chyflawni鈥檙 gamp aruthrol hon, mae鈥檙 Brifysgol hefyd wedi cadw鈥檌 safle 鈥楪radd Dosbarth Cyntaf鈥 yn y People & Planet's Green League 2011.
Meddai Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro John G. Hughes: 鈥淩wyf wrth fy modd efo鈥檙 cynnydd rydym yn ei wneud yma ym Mangor wrth reoli ein heffaith ar yr amgylchedd. Cwta fis sydd ers i Undeb y Myfyrwyr ennill tair gwobr genedlaethol am eu hymdrechion amgylcheddol, ac mae鈥檙 llwyddiannau鈥檔 dangos yn glir ein bod yn cymryd ein cyfrifoldebau amgylcheddol o ddifrif fel Prifysgol.鈥
Ychwanegodd Ricky Carter, Rheolwr Amgylcheddol y Brifysgol: 鈥淢ae hyn yn llwyddiant gwych. Mae llwyddo i aros ar y brig ymysg prifysgolion am ddwy flynedd yn olynol, tra hefyd yn codi safon ein perfformiad i Lefel 4 Safon y Ddraig Werdd yn dyst i鈥檙 gwaith t卯m ac i ymroddiad staff, myfyrwyr ac aelodau鈥檙 gymuned leol wrth ofalu am ein hamgylchedd. Mae llawer i鈥檞 gyflawni eto, ac mae鈥檙 System Rheoli鈥檙 Amgylchedd sydd gennym yn amlinellu鈥檙 trywydd y byddwn yn ei ddilyn i wella鈥檙 amgylchedd ymhellach dros y blynyddoedd i ddod.鈥
Am ragor o wybodaeth am Berfformiad amgylcheddol y Brifysgol ewch at y
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mehefin 2011