Anrhydeddau i ysgolheigion Eidaleg 黑料不打烊
Bu鈥檔 chwe mis rhagorol i ysgolheigion Eidaleg ym Mangor.
I Athro er Anrhydedd Eidaleg 黑料不打烊, yr Athro Anna Laura Lepschy (UCL), dyfarnwyd Medal Serena am Astudiaethau Eidalaidd gan yr Academi Brydeinig. Wrth dderbyn y fedal, dywedodd yr Academi Brydeinig: 鈥淢ae Laura Lepschy wedi cynyddu鈥檔 fawr ein gwybodaeth o ddiwylliant yr Eidal ers y Dadeni hyd at y presennol, trwy ei hymchwiliadau dyfeisgar i bynciau yn y theatr, naratif, ysgrifennu teithio, celfyddyd, amrywiaethau ar iaith, a鈥檙 meysydd lle mae llenyddiaeth ac iaith yn gorgyffwrdd.鈥 Enillwyd yr un wobr gan 诺r yr Athro Lepschy, sef yr Athro Giulio Lepschy (UCL) yn 2002, felly dyma鈥檙 tro cyntaf i 诺r a gwraig ennill y wobr.
Mae gwobr yr Athro Lepschy yn un o gyfres o anrhydeddau sydd wedi dod i ran staff yr adran Eidaleg yn Ysgol Ieithoedd Modern 黑料不打烊 yn ddiweddar. Mae ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa wedi dod i鈥檙 amlwg: i Mattia Marino, dyfarnwyd Cymrodoriaeth ieuaf yn yr Athrofa ar gyfer Astudiaethau Germanaidd a Rom谩wns (Institute of Germanic and Romance Studies) yn Llundain, a bydd hyn yn caniat谩u iddo gwblhau erthygl hir ar rym tanseiliol cyrff benywaidd grot茅sg mewn ysgrifennu gan ferched yn Ewrop; yn ddiweddar, mae Maria Cristina Seccia wedi bod yn gweithio ar gyfieithiad o farddoniaeth Eidalaidd-Ganadaidd, ac mae detholiad o鈥檌 chyfieithiadau ar fin cael ei gyhoeddi yn y flodeugerdd Writing Our Way Home dan olygyddiaeth Licia Canton; ac i Gerwyn Owen, deiliad ysgoloriaeth cyfrwng-Cymraeg, sy鈥檔 cael ei oruchwylio gan Ieithoedd Modern ar y cyd 芒 Diwydiannau Creadigol, dyfarnwyd ysgoloriaeth uchel ei bri gan y gymdeithas ddiwylliannol Il Circolo i ymchwilio yn 颁颈苍别肠颈迟迟脿, sef archif ffilm genedlaethol yr Eidal yn Rhufain.
Mae Pennaeth Eidaleg, Dr Laura Rorato, yn nes谩u at derfyn astudiaeth a ariannwyd gan yr AHRC i ymatebiadau cyfoes i waith Caravaggio. Yn ddiweddar, fe drefnodd Dr Rorato, ar y cyd 芒鈥檙 Athro Lepschy a Dr Simona Storchi (Prifysgol Caerl欧r), gynhadledd o鈥檙 enw Caravaggio Yesterday and Today: Art, Genius and Legend. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Llundain ar Ionawr 28ain, 2011, yn yr Athrofa ar gyfer Astudiaethau Germanaidd a Rom谩wns. Dyma鈥檙 digwyddiad cyntaf ar Caravaggio a oedd yn ceisio dwyn ynghyd, nid yn unig ysgolheigion o wahanol ddisgyblaethau, ond hefyd ymarferwyr megis llenorion ac artistiaid gweledol.
Y digwyddiad ar Carravagio oedd y cyntaf mewn cyfres i鈥檞 gynnal eleni. Mae鈥檙 Adran Eidaleg hefyd yn cymryd rhan mewn prosiect a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd, dan arweiniad Prifysgol Macerata yn yr Eidal, ar y testun 'Before and Beyond Auschwitz.' Cyflwynir canfyddiadau鈥檙 prosiect ddydd Mercher, Chwefror 24ain, 2011 am 2 y prynhawn yn Ystafell Gynhadledd 3. Mae Dr Rorato a Ms Seccia hefyd wrthi鈥檔 trefnu seminar undydd ar ffuglen Eidalaidd-Ganadaidd i鈥檞 chynnal ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ar Fai 4ydd, 2011. Y prif siaradwyr fydd yr Athro Anna Pia De Luca (Prifysgol Udine) a鈥檙 llenor Caterina Edwards.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2011