Ar frig y dosbarth: Cydnabod Annabelle yn un o鈥檙 myfyrwyr gorau yn y gyfraith yn y DU
Mae myfyrwraig yn ei hail flwyddyn ym Mhrifysgol 黑料不打烊 wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn cystadleuaeth genedlaethol i ganfod y myfyriwr israddedig gorau yn y Gyfraith.
Mae Annabelle Joy, o Crewe, wedi curo llawer o ymgeiswyr eraill i gyrraedd y 10 olaf yng nghystadleuaeth Target Jobs i ganfod Myfyriwr Israddedig Gorau鈥檙 Flwyddyn yn y Gyfraith, a noddir gan Mayer Brown, un o brif gwmn茂au cyfreithiol y byd.
Bydd yr enillydd, a gyhoeddir mewn seremoni wobrwyo sydd i鈥檞 chynnal yn Llundain ddiwedd Ebrill, yn ennill iPad a chynllun gwyliau mawreddog am dair wythnos gyda Mayer Brown 鈥 anrhydedd i unrhyw un sy鈥檔 awyddus i weithio fel cyfreithiwr.
鈥淧an gymerais ran yn y gystadleuaeth, fyddwn i fyth wedi rhagweld y byddwn yn mynd mor bell,鈥 meddai Annabelle, 20 oed, sy鈥檔 astudio ar raglen LLB 黑料不打烊 yn y Gyfraith. 鈥淩wy鈥檔 hynod o falch o鈥檙 ffaith fy mod wedi llwyddo i gyrraedd y deg uchaf, ac wedi cynhyrfu鈥檔 l芒n yngl欧n 芒鈥檙 rownd derfynol!鈥
Anogwyd y cyn-ddisgybl o Ysgol Uwchradd Babyddol St Thomas More, Northwich, i gymryd rhan yn y gystadleuaeth gan Dr Yvonne McDermott Rees, sydd wedi鈥檌 chefnogi trwy gydol y broses. Mae hi鈥檔 rhoi clod i鈥檞 darlithwyr am ei llwyddiant: 鈥淯n o鈥檙 meini prawf ar gyfer cystadlu yw bod disgwyl ichi ennill 2:1 neu uwch, ac mae鈥檙 addysgu yn Ysgol y Gyfraith wedi rhoi cyfle imi gyrraedd y safon hon hyd yma yn fy astudiaethau. Mae hyn i鈥檞 briodoli i natur gefnogol a hynaws y staff, yn ogystal 芒 dosbarthiadau o faint bach.鈥
Roedd y drefn ymgeisio lem yn gofyn i鈥檙 cystadleuwyr ateb tri chwestiwn a osodwyd gan Mayer Brown, a sefyll profion ar-lein mewn barnu sefyllfaoedd, rhesymu casgliadol a holiadur yngl欧n 芒 phersonoliaeth alwedigaethol. Ar 么l ennill ei lle yn y 35 uchaf, dewiswyd Annabelle wedyn gan Mayer Brown yn un o鈥檙 10 i gyrraedd y rownd derfynol, a wahoddwyd i gyd yn ddiweddar i swyddfeydd y cwmni yn Llundain ar gyfer eu her olaf: traddodi 10 munud o gyflwyniad ar hanes diweddar ar y newyddion.
鈥淒ewisais gyflwyno ar benderfyniad diweddar y DU i ddod yn aelod sefydlol arfaethedig o Fanc Buddsoddi Isadeiledd Asia, a鈥檙 effaith y gallai鈥檙 penderfyniad hwn ei chael ar y sector cyfreithiol ac, yn fwy penodol, ar Mayer Brown鈥, meddai Annabelle, sydd 芒鈥檌 bryd ar weithio mewn cwmni cyfreithiol yn y Ddinas. 鈥淎r 么l y cyflwyniadau, cafwyd cyfle i rwydweithio 芒鈥檙 rhai eraill oedd yn y rownd derfynol ac 芒 chyfreithwyr o鈥檙 cwmni. Roedd hyn yn ddefnyddiol, am imi gael cyngor ar sut i amlygu fy ngheisiadau am gontractau hyfforddiant a dysgu am y llwybrau gwahanol yr oedd y cyfreithwyr wedi鈥檜 cymryd i gyrraedd eu swyddi presennol. Yn gyffredinol, bu鈥檙 diwrnod yn brofiad gwych, ac rwy鈥檔 edrych ymlaen yn awr at weld pawb arall yn y seremoni wobrwyo.鈥
Roedd Dr Yvonne McDermott-Rees,Annabelle Joy (de) gyda'i darlithydd, Dr Yvonne McDermott Rees darlithydd yn y Gyfraith, wrth ei bodd yngl欧n 芒 llwyddiant Annabelle. 鈥淢ae Annabelle yn fyfyrwraig eithriadol ac yn llawn haeddu gwobr Myfyriwr Israddedig y Flwyddyn yn y Gyfraith, 2015 yn Ebrill! Mae cyrraedd y cam hwn yn y gystadleuaeth wedi rhoi cyfle iddi rwydweithio 芒 rhai o gyfreithwyr gorau鈥檙 DU, yn ogystal 芒 phrif gyfreithwyr y dyfodol, a bydd hyn yn sicr o鈥檌 gwneud yn fwy cyflogadwy 鈥 rhywbeth a brisiwn yn uchel iawn yma yn Ysgol y Gyfraith, 黑料不打烊.鈥
Bydd Annabelle a鈥檙 rhai eraill sydd yn y rownd derfynol gyda hi yn cael gwybod pwy yw鈥檙 enillydd mewn seremoni grand sydd i鈥檞 chynnal yn Canary Wharf ar 24 Ebrill. Am fwy o fanylion am y gystadleuaeth, ewch i .
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2015