Archeoleg fodern yn datgelu cyfrinachau Eliseg
Cloddio twmpath Colofn ElisegBydd archeolegwyr o brifysgolion 黑料不打烊 a Chaer yn cychwyn ail dymor o waith cloddio o gwmpas Colofn Eliseg, heneb garreg o鈥檙 nawfed ganrif OC a saif ar dwmpath ger Abaty Glyn y Groes, Llangollen, rhwng 4-16 Medi 2011. Bydd prynhawn agored ar y safle cloddio archeolegol ddydd Gwener 16 Hydref, rhwng 3- 6 y.p.
Mae Project Eliseg yn defnyddio dulliau archeolegol modern i ymchwilio i鈥檙 twmpath y saif y Golofn arno a鈥檙 cyffiniau ddatgelu mwy am y Golofn, a hefyd am y twmpath neu鈥檙 鈥榗rug鈥 y saif arno.
Meddai鈥檙 Athro Nancy Edwards o , Prifysgol 黑料不打烊: 鈥淧rif amcan y project yw cyrraedd gwell dealltwriaeth am y gofeb ddirgel hon a sut y鈥檌 defnyddiwyd ac ail-ddefnyddiwyd dros amser.鈥
Mae Colofn Eliseg, oedd yn groes garreg dal i ddechrau, yn dal i fod yn dirnod trawiadol. Dim ond rhan o baladr crwn y groes sydd ar 么l erbyn hyn, wedi ei osod o fewn ei sylfaen wreiddiol. Bu unwaith arysgrif Ladin hir i鈥檞 gweld ar y groes, yn dweud iddi gael ei chodi gan Gyngen, tywysog teyrnas Powys a fu farw yn 854 O.C., er cof am ei hen daid, Eliseg a oedd wedi hel y Saeson o鈥檙 wlad. Erbyn heddiw mae bron yn amhosib gweld yr arysgrif. Saif y golofn ar dwmpath na wyddys ei oed na鈥檌 phwrpas. Erbyn diwedd yr ail ganrif ar bymtheg nid oedd y Golofn yn sefyll mwyach ond cofnodwyd yr arysgrif oedd wedi ei difrodi gan yr hynafiaethydd enwog o Gymru Edward Lhuyd. Cloddiwyd y twmpath yn 1773 gan y tirfeddiannwr lleol Thomas Lloyd ac yn 么l y s么n daethpwyd o hyd i gist garreg yn cynnwys ysgerbwd. Ailgodwyd y Golofn hefyd. Cofnodwyd y digwyddiad mewn ail arysgrif ar y paladr. Ond nid yw鈥檙 safle erioed wedi bod yn destun ymchwiliad archeolegol modern.
Canlyniad y cloddio yn 2010 a fu鈥檔 canolbwyntio ar y twmp, oedd ei hadnabod fel carnedd Oes Efydd Gynnar.
Meddai鈥檙 Athro Nancy Edwards: 鈥 Eleni rydym yn dychwelyd i鈥檙 garnedd er mwyn archwilio natur ac ystod y 鈥榗loddio鈥 ail ganrif ar bymtheg a gwneuthuriad y garnedd.鈥
Mae Project Eliseg o dan gyfarwyddyd yr Athro Nancy Edwards a Dr Gary Robinson o Brifysgol 黑料不打烊 ynghyd 芒鈥檙 Athro Dai Morgan Evans a鈥檙 Athro Howard Williams o Brifysgol Caer. Mae鈥檙 gymuned yn cymryd rhan bwysig yn y project, dan arweiniad Amgueddfa Llangollen. Noddir y project gan Gadw, Prifysgol Cymru, Prifysgol 黑料不打烊 a Phrifysgol Caer.
Dilynwch eu gwaith cloddio ar wefan Facebook Amgueddfa Llangollen neu drwy eu gwefan.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Awst 2011