Archeolegwyr yng Ngŵyl Gwyddoniaeth ºÚÁϲ»´òìÈ
Ymunwch â ni yn yr Arddangosfa Bydoedd Cudd yn ystod Gŵyl Gwyddoniaeth Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ
Bydd ac Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn rhoi’r cyfle i’r cyhoedd brofi ymchwil archaeolegol ymarferol yn yr Arddangosfa Bydoedd Cudd – a gynhelir ar 15 Mawrth 2014 yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Gwyddoniaeth a Pheirianneg – sy’n rhan o .
Bydd cyfranogwyr yn cael eu hannog i fynd ‘Ar Drywydd Olion y Gorffennol’ trwy archwilio tirlun gorffennol Gwynedd gyda thechnegau gwyddonol a ddefnyddir gan archaeolegwyr. Nid gwaith cloddio yn unig yw archaeoleg, ac weithiau y pethau bach sy’n datgelu’r pethau mawr.
Bydd yna gyfle i adnabod gronynnau pail hynafol: gall gronynnau paill microsgopig oroesi am filoedd o flynyddoedd gan roi cofnod unigryw i ni o’r coed a’r planhigion hynafol, gan roi cymorth i ateb cwestiynau megis ‘Ym mha oes y gorchuddiwyd Gwynedd gyfan gan goed’? ‘Pa bryd ddechreuodd bobl ffermio’?
Nid oes angen offer drudfawr arnoch bob tro i gymryd rhan mewn archaeoleg, a bydd cyfranogwyr yn medru creu modelau 3D o henebion archaeolegol gan ddefnyddio’u ffotograffau eu hunain. Gellir gweld y modelau ar y rhyngrwyd neu eu hargraffu fel modelau plastig go iawn.
Yn ychwanegol, bydd cyfle i ddysgu sut mae archaeolegwyr yn cofnodi tirluniau a safleoedd, a rhoddir cynnig i bobl dirfesur (os yw’r tywydd yn caniatáu).
Mae’r digwyddiad yn rhan o’r , ac fe’i cynhelir ar y 15fed Mawrth 10am-4pm yn Adeilad Brambell (gweler rhif 38 ar y ), Ffordd Deiniol, ºÚÁϲ»´òìÈ
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mawrth 2014