Archif y mis

Llun anarferol o anffurfiol o wragedd a phlant rhai o brif ddarlithwyr y Coleg, c. 1900.
Rhes gefn: Mrs Mary Reichel (gwraig Syr Harry Reichel, Prifathro); Mrs Kitson (chwaer Mrs Reichel); Mrs Spencer (gwraig Frederic Spencer, Ieithoedd Modern)
Rhes ganol: Plant Mr a Mrs Dobbie fe dybir, sef Mary, Violet, Alec, Jim
Rhes flaen: Mrs Violet Osborn Arnold (gwraig Athro E.V. Arnold, Lladin); Mrs Dobbie (gwraig Athro J.J. Dobbie Cemeg a Geoleg); Mrs Gibson (gwraig Athro J. Gibson, Rhesymeg, Athroniaeth ac Economeg Wleidyddol); Mrs Lloyd (gwraig Athro J.E. Lloyd, Hanes)
Yn ddiweddarach yn hanes y Brifysgol, yn 1930au, ffurfiwyd clwb arbennig i ferched a ddaeth i gael ei adnabod fel yr 鈥淪RC Wives Club鈥. Ymysg pethau eraill byddai鈥檙 aelodau yn gyfrifol am drefnu rhaglen o ddarlithoedd, nosweithiau o giniawa a phartion Nadolig i blant. Diddymwyd y clwb yn 2006.
惭补别鈥檙 yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal 芒鈥檔 Casgliadau Arbennig a鈥檙 Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau 黑料不打烊. Mae un ffactor yn gyffredin i鈥檙 holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2013