Archif y mis

Yn yr olygfa hon, fe welir y Brifysgol (Coleg Prifysgol Gogledd Cymru pryd hynny) ar y bryn uwchben prif orsaf bysiau ºÚÁϲ»´òìÈ; hefyd, yn y llun gwelir ramp gerdded yn arwain i fyny at faes parcio yng nghanolfan siopa ‘newydd’ Wellfield.
Tynnwyd y llun yn y chwedegau. Sylwer yn y cefndir bws dau lawr Crosville yn barod i gychwyn.
Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Mae yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal â’n Casgliadau Arbennig a’r Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau ºÚÁϲ»´òìÈ. Mae un ffactor yn gyffredin i’r holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2014