Archif y mis

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf cynhaliwyd arbrawf yng Nglan-llyn, ar lannau Llyn Tegid, Y Bala i ganfod a ellid hyfforddi morloi i ganfod llongau tanfor y gelyn yn y m么r mawr. Nid morloi cyffredin oedd y mamaliaid a ddefnyddiwyd, ond rhai a arferai berfformio ar lwyfan, gyda nifer hefyd o Sw Llundain. Yn anffodus nid oedd yn dasg hawdd eu rheoli - er mwyn cadw llygad ar y morloi roedd yn rhaid eu paentio mewn lliwiau llachar a bu'n rhaid rhoi llawer iawn o bysgod iddynt i'w gwobrwyo. Dangosodd yr arbrawf mai am fwyd yr oedd eu greddf gryfaf ac nid dilyn llongau tanfor, ac ni wnaeth y cynllun fyth ddwyn ffrwyth.
Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Mae Archifdy Prifysgol 黑料不打烊 yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal 芒鈥檔 Casgliadau Arbennig a鈥檙 Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau 黑料不打烊. Mae un ffactor yn gyffredin i鈥檙 holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Cewch ragor o wybodaeth am ein casgliadau ar ein gwefan neu ar ein catalog arlein
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2014