Archif y mis

Llun o Bont Britannia cyn Mai 1970.
Adeiladwyd y bont gan y peiriannydd Robert Stephenson, ac fe鈥檌 hagorwyd ar y 5ed o Fawrth 1850.
Gyda鈥檙 nos, ar y 23ain o Fai, 1970, crwydrodd rhai hogiau lleol, yn chwilio am ystlumod, i fewn i鈥檙 bont, a thanio torsh i weld eu ffordd. Yn ddiarwybod iddynt, cychwynasant d芒n yn y bont. Er mai metel oedd strwythr y tiwb, 鈥檙oedd wedi ei atgyfnerthu gan goed, a鈥檙 coed hwnnw wedi ei drwytho mewn pitsh. Llosgodd hwn yn ulw dros nos, a dwysedd y gwres yn ddigon i fwclo鈥檙 haearn nes bod y bont, i bob pwrpas, wedi ei difa鈥檔 llwyr.
Ail-gynlluniwyd y bont gan osod bw芒u newydd o ddur i gynnal y strwythur. Ar y 30ain o Ionawr 1972, ail-agorwyd y bont i鈥檙 rheilffordd.
鈥橰oedd dyluniad y bont wreiddiol yn cynnwys llewod sylweddol o galchfaen, a ddyluniwyd gan John Thomas, y naill ochr i鈥檙 rheilffordd. Nid yw鈥檙 llewod i鈥檞 gweld o鈥檙 A55, ond maent i鈥檞 gweld wrth deithio ar dr锚n. Mae鈥檙 syniad o鈥檜 codi at lefel y ffordd wedi ei wyntyllu o bryd i鈥檞 gilydd.
Cymerodd fwy o amser eto i adeiladu鈥檙 dec ychwanegol i gludo鈥檙 ffordd uwchben y rheilffordd. Agorwyd y ffordd newydd hon yn 1980.
Mae'r holl ddelweddau, ffotograffau a dogfennau ar y dudalen hon yn destun cyfyngiadau hawlfraint.
Mae Archifdy Prifysgol 黑料不打烊 yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal 芒鈥檔 Casgliadau Arbennig a鈥檙 Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau 黑料不打烊. Mae un ffactor yn gyffredin i鈥檙 holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Cewch ragor o wybodaeth am ein casgliadau ar ein gwefan http://www.bangor.ac.uk/archives neu ar ein catalog arlein http://calmview.bangor.ac.uk/Calmview
Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2015