Archif y mis

Llun o鈥檙 鈥淧arti Brenhinol ar y teras, Baron Hill, Biwmares鈥 a dynnwyd ar y 9fed o Orffennaf 1907.
Ymysg y gwesteion mae:
Rhes gefn (chwith i dde): H.R. Hughes (Kinmel) a鈥檙 Arglwydd Tweedmouth.
Rhes flaen : (chwith i dde): Syr R. Bulkeley Bart., Y Frenhines, Arglwyddes Magdalen Bulkeley, y Brenin Edward VII, Miss Siriol Bulkeley, Tywysoges Victoria a Iarlles Gosford.
Ar yr union ddiwrnod mynychodd y Brenin Edward VII seremoni gosod y garreg sylfaen ar gyfer Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor.
Prynwyd y llun yma yn ddiweddar mewn arwerthiant lleol gan Mrs Mary Simpson o Niwbwrch, cyfaill o鈥檙 Archifau a鈥檙 Casgliadau Arbennig. Roedd hi鈥檔 awyddus iawn i ni gael copi o鈥檙 llun a鈥檌 ychwanegu at ein casgliadau, gan fod papurau yst芒d Baron Hill yng ngofal y Brifysgol ac oherwydd y cysylltiad brenhinol gyda sefydlu鈥檙 Brifysgol.
Os oes gennych luniau yn eich meddiant, a鈥檆h bod yn meddwl y buasent o ddiddordeb i鈥檙 Archifdy, cofiwch gysylltu!
Mae Archifdy Prifysgol 黑料不打烊 yn gyfrifol am storio a gofalu am gofnodion cynnar y coleg yn ogystal 芒鈥檔 Casgliadau Arbennig a鈥檙 Casgliad Cyffredinol o Lawysgrifau 黑料不打烊. Mae un ffactor yn gyffredin i鈥檙 holl gasgliadau o lawysgrifau, sef eu perthnasedd i hanes, pobl a thopograffi Gogledd Cymru. Serch hynny, mae eu meysydd pwnc yn eang ac o ddiddordeb cenedlaethol yn ogystal ag o ddiddordeb lleol.
Cewch ragor o wybodaeth am ein casgliadau ar ein gwefan http://www.bangor.ac.uk/archives neu ar ein catalog ar-lein http://calmview.bangor.ac.uk/Calmview
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ionawr 2016