Arddangosfa ym Mhorthaethwy
Mae prosiect SEACAMS sy鈥檔 cael ei redeg yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn eich gwahodd i ymweld ag arddangosfa i gael gweld a thrafod y cynlluniau ar gyfer ailddatblygiad safle 鈥榃estbury Mount鈥 ym Mhorthaethwy.
鈥淩ydym yn falch o鈥檔 treftadaeth ym Mhorthaethwy ac ein henw da fel sefydliad ymchwil rhyngwladol. Mae SEACAMS yn sefydlu Canolfan Arloesi fel rhan integredig o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Eigion er mwyn cymell buddsoddiad yn y sector forol yng Nghymru. Bwriad y datblygiad yw creu adeilad cynaliadwy, wedi ei gynllunio i safon uchel a wnaiff wella鈥檙 amgylchedd yn yr ardal leol. Rydym yn gwahodd pobl leol i ddod i gael golwg ar ein cynlluniau i gael gwybodaeth ac i fynegi barn,鈥 dywedodd yr Athro Colin Jago, Cyfarwyddwr SEACAMS a Phennaeth Coleg Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
Bydd yr arddangosfa gyhoeddus ar agor Ddydd Iau'r 15fed o Fedi 10yb-8yh, Ddydd Gwener 16eg o Fedi 10yb-4yp, Ddydd Sadwrn 17eg o Fedi 10yb-2yp a Dydd Sul 18fed o Fedi 2yp-4yp yn Uxbridge House, Sgwar Uxbridge, Porthaethwy (siop 鈥楳enai Ski & Outdoor鈥 gynt, yng nghanol y dref)
Gallwch hefyd gyflwyno unrhyw sylwadau ar ein gwefan:
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2011