Arddangosfa yn cynnig cyfle i gymryd rhan mewn trafodaeth trethi hanesyddol
Dr Nia Powell a'r Athro Huw Pryce, Ysgol Hanes, Y Gweinidog Jane Hutt AM, Is-Ganghellor Athro John Hughes, Helen Watt, Aberystwyth, Gwilym Owen a'r Athro Dermot Cahill, Ysgol y Gyfraith. Mae arddangosfa sy鈥檔 amlinellu hanes trethi yng Nghymru ac yn annog ymwelwyr i roi eu barn ar ddeddfwriaeth drethi gyntaf y wlad yn y cyfnod modern i鈥檞 gweld yng Prifysgol 黑料不打烊 tan 28 Tachwedd.
Bu鈥檙 Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn lansio鈥檙 arddangosfa yn y Brifysgol cyn ymuno 芒鈥檙 cyfarfod Fforwm Trethi cyntaf yn y Gogledd. Gr诺p o randdeiliaid yw鈥檙 Fforwm sy鈥檔 cynghori ar gyfraith trethi, gweinyddu a鈥檙 ffordd y caiff polisi a deddfwriaeth trethi Cymru eu datblygu. Mae鈥檙 Athro Dermot Cahill, Pennaeth yr Ysgol y Gyfraith hefyd yn aelod.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi鈥檔 ymgynghori ar y trefniadau ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru. Dyma fydd sylfaen y gyfundrefn drethi gyntaf erioed yng Nghymru, a鈥檙 trethi datganoledig y byddwn yn eu cyflwyno o 2018 fydd y trethi Cymreig cyntaf i鈥檞 casglu ers dros 700 mlynedd.
Gan gynnwys gwaith ymchwil gan Gwilym Owen o a Dr Nia Powell o , bydd arddangosfa Trethi yng Nghymru yn olrhain hanes trethi yng Nghymru.
Fel yr esbonia Gwilym Owen:
鈥淕an nad oedd Cymru yn wlad unedig cyn y Deddfau Uno (1536-43), mae鈥檔 anodd dangos system drethu ar wah芒n ar gyfer Cymru gyfan. Fodd bynnag, roedd trethi cyn yr Undeb, a godwyd gan Arglwyddi鈥檙 Mers, yn bodoli, ac yn cael eu defnyddio ym Mers Cymru. Gwelir esiampl o 鈥渄rethi Cymreig鈥 cyn yr Undeb mewn rhestr o gwynion a wnaethpwyd yn erbyn Llywelyn ein Llyw Olaf yn yr haf 1283, yn dilyn Concwest Cymru gan Edward I yn 1282.
Un cwyn oedd am dreth wedi ei orfodi gan Llywelyn o dair ceiniog ar bob anifail mawr. Gwnaethpwyd hyn heb ganiat芒d y bobl. Nid oedd yn weithredol drwy Gymru.
Esiampl arall o gyfnod cynt yw gwestfa a dalwyd gan ddeiliaid rhydd y tywysogion brodorol i gefnogi llywodraeth frenhinol mewn nifer o dywysogaethau, yn 么l Cyfraith Hywel Dda, a barhaodd tan yr Undeb. Er iddynt gael eu talu gan y bobl i gefnogi llywodraeth, ni fyddent wedi cael unrhyw lais yn eu gweithrediad, sydd yn eu gwneud yn wahanol i drethi modern.
Yn dilyn y Goncwest, fe oedd Tywysogaeth Cymru yn gorfod talu trethi Lloegr, wedi eu gweithredu gan Goron Lloegr.
Mae Gwilym Owen yn rhoi sylw pellach:
鈥淯n gwahaniaeth mawr rhwng y dreth oedd yn weithredol gan Llywelyn ein Llyw Olaf a鈥檙 grymoedd newydd i godi trethi gan y Cynulliad Cenedlaethol yw鈥檙 ffaith fod treth Llywelyn wedi ei weithredu gan lywodraethwr awtocratig, ac nid oedd yn ymestyn drwy Gymru gyfan. Yn hanfodol, mae鈥檙 grymoedd newydd i godi trethi yn gwbl ddemocrataidd, ac yn ymestyn drwy Gymru. Nid oes cyfundrefn drethi debyg erioed wedi bodoli o鈥檙 blaen yn hanes hir Cymru. Rhoddodd Gyllideb y Bobl Lloyd George, a鈥檙 Ddeddf Seneddol 1911 ddiwedd ar ddylanwad T欧鈥檙 Arglwyddi mewn perthynas 芒 threthiant. Mae grymoedd newydd y Cynulliad mewn perthynas 芒 threthiant yn portreadu tyfiant pellach mewn penderfyniadau democrataidd yn ymwneud 芒 threthiant yng Nghymru.鈥
Dywedodd y Gweinidog Cyllid: 鈥淩oedd deddfwriaeth drethi ddiwethaf Cymru 700 mlynedd yn 么l, felly mae cyhoeddi ein Papur Gwyn diweddar ar gasglu a rheoli trethi datganoledig yn foment hanesyddol a phwysig. Y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth drethi gyntaf Cymru yn y cyfnod modern.
鈥淗offwn weld cynifer 芒 phosibl o bobl yn gweithio gyda ni i ddatblygu cyfundrefn drethi Cymru at y dyfodol.
Cr毛wyd yr arddangosfa mewn partneriaeth ag Adran y Gyfraith ym Mhrifysgol 黑料不打烊, y Llyfrgell Genedlaethol ac Archifau Morgannwg.
Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊 yr Athro John G Hughes: 鈥淩ydyn ni鈥檔 falch iawn o gael cynnal cyfarfod y Fforwm Trethi, sy鈥檔 cydnabod r么l Ysgol y Gyfraith 黑料不打烊 yn y fenter hon. Mae鈥檙 cam cyntaf tuag at drethi datganoledig yng Nghymru yn bwysig dros ben ac mae鈥檙 arddangosfa hon yn gosod y Fforwm Trethi a鈥檙 ymgynghoriad yn eu cyd-destun hanesyddol. Rydyn ni鈥檔 gobeithio y bydd y gymuned leol yn manteisio ar y cyfle i ymweld 芒鈥檙 arddangosfa ac yn cael eu hysbrydoli i ymateb i鈥檙 ymgynghoriad.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 20 Tachwedd 2014