Arloesi 芒 defnydd newydd o Wl芒n
Angela Morris a Keith Spilsbury o Woolcool efo鈥檙 blychau fferyllol LifeGuardian newydd.A ydych chi erioed wedi ystyried sut mae defaid yn goroesi ar y bryniau oer a gwlyb? Mae gan eu gwl芒n nodweddion insiwleiddio anhygoel sy鈥檔 eu cadw鈥檔 gynnes, ac mae鈥檙 ddynoliaeth wedi gwneud yn fawr o鈥檜 cnu ers miloedd o flynyddoedd. Ond a ellir ei ddefnyddio i gadw pethau鈥檔 oer?
Mae gwyddonwyr ymchwil yng Nghanolfan BioGyfansoddion Prifysgol 黑料不打烊 wedi bod yn cyfrannu at ehangu ein dealltwriaeth o briodweddau anhygoel gwl芒n fel defnydd insiwleiddio yn y diwydiant cludo nwyddau oer, ac wedi rhoi prawf ar ei berfformiad at ddibenion newydd a gwerthfawr.
Mae cwmni Woolcool yn Swydd yr Amwythig yn arwain y farchnad sy鈥檔 arbenigo mewn pecynnu wedi鈥檌 insiwleiddio a gynhyrchir o ddeunyddiau naturiol. Gofynnodd y cwmni i鈥檙 Ganolfan BioGyfansoddion ymchwilio ymhellach i briodweddau gwl芒n yn rheoli tymheredd a byffro lleithder fel rhan o broject ymchwil a datblygiad a ariannwyd gan Innovate UK i ddatblygu deunydd pecynnu arloesol a chynaliadwy i鈥檞 ddefnyddio i gludo meddyginiaethau sydd angen eu cadw ar dymheredd sefydlog, yn enwedig brechlynnau, o gwmpas y byd.
Mae dod i ddeall sut mae gwl芒n yn ymateb i鈥檙 amgylchedd a sut mae鈥檔 gweithio yn gwarchod tymheredd a lleithder wedi galluogi Woolcool i ddatblygu deunyddiau pecynnu arloesol a chynaliadwy newydd ar gyfer dosbarthu bwyd, deunyddiau fferyllol a chynhyrchion eraill sydd angen cael eu cadw鈥檔 oer wrth gael eu cludo. Mae hefyd yn gweithredu鈥檔 well na deunyddiau insiwleiddio gwneud fel polystyren.
Keith Spillsbury ac Angela Morris o Woolcool efo Graham Ormondroyd o鈥檙 Ganolfan BioGyfansoddion a鈥檙 Is-ganghellor, yr Athro John G Hughes, ar achlysur y Noson Wobrwyo Effaith ac Arloesi. Cyrhaeddodd y project restr fer y Wobr Arloesi Gorau mewn Busnes.Mae Woolcool yn defnyddio gwl芒n 100% pur yn eu deunyddiau a chynhyrchion pecynnu ecogyfeillgar. Datblygwyd eu pecynnu wedi鈥檌 insiwleiddio i鈥檞 ddefnyddio yn y diwydiant bwyd ffres a鈥檙 diwydiant fferyllol, sy鈥檔 dibynnu ar sicrwydd bod eu cynnyrch yn cael ei gadw ar dymheredd sefydlog wrth gael ei gludo.
Trwy weithio gyda gwyddonwyr yn y Ganolfan BioGyfansoddion, mae Woolcool wedi dod i ddealltwriaeth dechnolegol o sut yn union mae eu hinsiwleiddio gwl芒n yn gweithio a chael cadarnhad gwyddonol bod eu cynnyrch yn cadw鈥檙 cynhwysion ar y tymheredd sefydlog gofynnol am gyfnodau hirach na phecynnu arferol, ac yn cwrdd 芒鈥檙 safonau pecynnu Ewropeaidd neu鈥檔 gwella arnynt.
Meddai Angela Morris, Prif Weithredwr Woolcool:
鈥淢ae gwl芒n yn un o鈥檙 ffibrau mwyaf clyfar ac anhygoel ym myd natur gyda strwythur cymhleth a phriodweddau naturiol sy鈥檔 ymdopi ag eithafion oerfel a gwres.鈥
鈥淢ae ffibrau gwl芒n yn hydrosgopig, sy鈥檔 golygu eu bod yn amsugno a gollwng lleithder, gan weithredu fel thermostat naturiol sy鈥檔 cynnal tymheredd sefydlog. Roeddem yn awyddus i fanteisio ar yr adnodd adnewyddadwy anhygoel hwn.鈥
Meddai Graham Ormondroyd, a arweiniodd y gwaith yn y Ganolfan BioGyfansoddion:
鈥淢ae ein harbrofion wedi rhoi prawf ar berfformiad gwl芒n fel deunydd pacio ac wedi galluogi鈥檙 cwmni i ehangu. Maent erbyn hyn yn cyflogi 40 o bobol yn eu ffatri newydd. Mae鈥檙 deunydd yma wedi sefydlu enw da iddo鈥檌 hun yn gyflym iawn mewn marchnad arbenigol o bwys.鈥
鈥淒iben y Ganolfan BioGyfansoddion yw ymchwilio i ddeunyddiau adnewyddadwy y gall cwmn茂au masnachol eu datblygu ar gyfer y farchnad. Rydym bob amser wrth ein bodd pan fydd deunydd adnewyddadwy yn cael ei fabwysiadu i鈥檞 ddefnyddio yn lle deunyddiau anadnewyddadwy.鈥
Cyrhaeddodd gwaith y Ganolfan BioGyfansoddion yn ymchwilio i鈥檙 defnydd o wl芒n ar gyfer pecynnu bwydydd a meddyginiaethau restr fer y Wobr Arloesi Gorau mewn Busnes (a noddwyd gan Siemens Healthcare Diagnostics) yn nhrydedd Noson Wobrwyo Effaith ac Arloesi Prifysgol 黑料不打烊 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2016