Arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru yn mynychu sesiwn 鈥楲abordy鈥 ym Mhrifysgol 黑料不打烊
Bydd deg ar hugain o academyddion a enwyd fel arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru yn mynychu sesiwn 鈥楲abordy鈥 Crwsibl Cymru ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ar Orffennaf 26 鈥 27 2012.
Menter yw Crwsibl Cymru a gyllidir gan Gr诺p Dydd Gwyl Dewi a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i gefnogi rhaglen datblygu broffesiynol ac arweinyddiaeth i arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru. Mae鈥檙 drydedd sesiwn labordy hon yn gael ei chynnal ar ran Crwsibl Cymru gan Brifysgol 黑料不打烊 a Phrifysgol Aberystwyth, yn Neuadd Hugh Owen Prifysgol 黑料不打烊.
Bydd 30 o ymchwilwyr dethol o Brifysgolion Grwp Dydd Gwyl Dewi yng Nghymru (sef Aberystwyth, 黑料不打烊, Caerdydd, Morgannwg, Abertawe) yn dod at ei gilydd ar gyfer yr olaf o鈥檙 tri gweithdy deuddydd dwys. Mae鈥檙 gweithdai鈥檔 cynnwys siaradwyr gwadd ysbrydoledig, seminarau, sesiynau sgiliau a thrafodaethau anffurfiol.
Mae鈥檙 Athro David Shepherd, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil a Menter ym Mhrifysgol 黑料不打烊, wedi egluro ei frwdfrydedd dros raglen Crwsibl Cymru, gan ddweud:
鈥淩ydw i鈥檔 credu ers talwm bod cydweithio rhwng ymchwilwyr ac entrepreneuriaid ym mhob disgyblaeth yn gwbl hanfodol i arloesi llwyddiannus. Mae Crwsibl Cymru鈥檔 enghraifft wych o鈥檙 dull hwn ar waith ac mae canlyniadau鈥檙 rhaglen gyntaf llynedd yn dangos bod y dull cyffrous hwn o ymdrin ag ymchwil a datblygu yng Nghymru'n creu鈥檙 arweinwyr a鈥檙 arloeswyr a fydd yn helpu i sicrhau dyfodol economi wybodaeth Cymru.鈥
Am fanylion pellach am Grwsibl Cymru, gweler www.welshcrucible.org.uk
![]()
Dyddiad cyhoeddi: 25 Gorffennaf 2012