Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn ym Mhrifysgol 黑料不打烊
Ross Davies, Arweinydd Cyfoed y FlwyddynMae Ross Davies o Ben-y-bont ar Ogwr, De Cymru, wedi鈥檌 ethol yn Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
Roedd Ross yn un o 486 o fyfyrwyr a gafodd eu hyfforddi eleni fel Arweinwyr Cyfoed - y nifer fwyaf erioed - ac a fu鈥檔 gwirfoddoli i gefnogi ac arwain myfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
Gofynnir i bob myfyriwr yn y flwyddyn gyntaf pwy hoffai ei enwebu ar gyfer Arweinydd Cyfoed y Flwyddyn. Disgrifiodd y myfyrwyr a enwebodd Ross sut yr aeth allan o鈥檌 ffordd i ddod i adnabod y myfyrwyr yr oedd yn gyfrifol amdanynt cyn iddynt gyrraedd y Brifysgol hyd yn oed. Roedd hyn yn gwneud y dyddiau cyntaf yn llawer llai pryderus iddynt. Er hynny, nid yw鈥檙 Arweinwyr Cyfoed yno am yr wythnosau cyntaf yn unig, maen nhw yno cyhyd ag y mae鈥檙 myfyrwyr angen eu cyngor a鈥檜 cymorth. Mae nifer yn gwneud ffrindiau drwy fod yn Arweinwyr Cyfoed.
Cafodd Ross darian yn wobr a thocyn 拢50 i鈥檞 wario yn siopau鈥檙 Stryd Fawr.
Mae gan Fangor un o鈥檙 cynlluniau mwyaf o鈥檌 fath yn y DU, ac mae鈥檔 cael ei ddefnyddio fel esiampl o ymarfer gorau i brifysgolion eraill. Yn gynharach eleni gosodwyd y Cynllun ar restr fer Gwobr Genedlaethol y Times Higher Education am Gefnogaeth Neilltuol i Fyfyrwyr.
Mae鈥檙 Arweinwyr Cyfoed eu hunain yn ennill sgiliau a phrofiadau sydd yn help iddynt unwaith maent yn chwilio am waith. Mae rhaid iddynt fod yn drefnus er mwyn cynllunio鈥檜 cyfrifoldebau Arweinwyr Cyfoed a鈥檜 hastudiaethau eu hunain. Rhaid iddynt fod yn gyfathrebwyr da, a gallu gweithio mewn timau a dangos sgiliau arwain: mae鈥檙 rhain i gyd yn sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Meddai Ross: 鈥淢ae Prifysgol 黑料不打烊 yn Brifysgol wych ac roeddwn eisio cyfrannu鈥檔 ymarferol. Roeddwn yn gwybod cymaint o her oedd dod i鈥檙 Brifysgol i mi. Roedd gen i Arweinydd Cyfoed a phenderfynais yr hoffwn i wneud yr un fath. Rwy鈥檔 gwybod sut i siarad 芒 phobol a gallwn wneud i fyfyrwyr newydd deimlo鈥檔 gartrefol.鈥
鈥淒ywedais wrth y myfyrwyr newydd y baswn yn dod i chwilio amdanyn nhw yn hytrach na gadael iddyn nhw ddod i nghyfarfod i. Cyflwynais nhw i bobol a鈥檜 harwain ar deithiau byrion ac i ddigwyddiadau cymdeithasol. Mae鈥檔 gwneud y broses o ddod i nabod pobol yn haws wrth gael hwyl ar yr un pryd.
Y peth i bwysleisio yw bod pawb yn yr un cwch 芒 chi, does dim i鈥檞 ofni, dim ond nerfau ydi o!鈥
Mae Ross wedi annog y myfyrwyr o dan ei ofal i fanteisio ar bob cyfle a g芒nt tra byddant yn y Brifysgol.
Meddai: 鈥淢ae gwirfoddoli fel Arweinydd Cyfoed wedi rhoi lot o hyder i mi- yn ogystal ag esgus i ddod i nabod nifer o bobol newydd. Rydw i wedi mwynhau鈥檔 fawr iawn a byddwn yn argymell y profiad i unrhyw un.
鈥淩wy鈥檔 falch mod i wedi ennill ac mae cael adborth fel hyn yn wych.鈥
Daeth Ross i Fangor gan fod gan y Brifysgol enw da yn addysgol, ac roedd wrth ei fodd efo 黑料不打烊 pan ddaeth ar gyfer cyfweliad.
Dyma oedd gan Kim Davies, Cydlynydd Arweinwyr Cyfoed yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, i鈥檞 ddweud:
鈥淩ydym yn ystyried ein hunain yn brifysgol sy鈥檔 gofalu am bobl. Rydym yn gwerthfawrogi'r ymrwymiad a鈥檙 cyfraniad i fywyd y Brifysgol sy鈥檔 cael ei wneud gan ein Harweinwyr Cyfoed gwych. Rydym mor falch bod cynifer o fyfyrwyr yn awyddus i gyfrannu at gefnogi eu cyd-fyfyrwyr鈥, meddai.
鈥淣id yn unig mae'r Arweinwyr yn trefnu ac yn cynnal gweithgareddau yn ystod Wythnos y Glas, maent wrth law i roi cymorth cyhyd ac mae ar fyfyrwyr ei hangen, a gall hyn wneud gwahaniaeth rhwng myfyriwr yn penderfynu aros neu adael yn ystod yr wythnosau cyntaf anodd oddi cartref,鈥 ychwanegodd.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mai 2011