Astudiaeth Fewnfudo WISERD yn y newyddion
Mae astudiaeth a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol 黑料不打烊, fel rhan o (Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru), wedi darparu data newydd ar farn pobl Cymru am fewnfudo a sut mae hyn yn cymharu 芒 rhannau eraill o鈥檙 Deyrnas Unedig.
Trwy edrych ar gwestiynau am fewnfudo a ofynnwyd mewn prif arolygon dros y 5 mlynedd ddiwethaf, mae'r astudiaeth wedi canfod bod pobl yn gyffredinol yn cefnogi鈥檔 gryf y dylid lleihau nifer y mewnfudwyr i鈥檙 DU ond bod gwahaniaethau rhanbarthol amlwg hefyd ym marn pobl am fewnfudo.
Ymddengys bod y canlyniadau yn awgrymu tueddiad lle bo pobl yng Nghymru, canolbarth Lloegr a gogledd Lloegr yn rhoi mwy o gefnogaeth i leihau mewnfudo a bod ganddynt farn fwy negyddol am effaith mewnfudo. Ar y llaw arall, mae patrwm gwahanol yn ymddangos yn Llundain, yr Alban a Gogledd Iwerddon lle nad oes cymaint o gefnogaeth dros leihau mewnfudo a cheir barn mwy ffafriol am effaith mewnfudo.
Yn 么l Dr Robin Mann o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Cymdeithas, 鈥淢ae hon yn astudiaeth ymchwiliol fach ac mae鈥檔 rhaid i ni gofio na ellir cymryd yr hyn a ddywed pobl mewn arolwg fel adlewyrchiad o sut mae pobl yn dod ymlaen gyda鈥檌 gilydd mewn cymunedau. Wedi dweud hynny, mae鈥檙 data yn rhoi darlun cyffredinol i ni o farn pobl am y syniad o fewnfudo".
Mae Dr Mann yn dadlau mai鈥檙 cwestiwn diddorol yw pam ei bod yn ymddangos bod llai o gefnogaeth dros leihau mewnfudo yn yr Alban nag yng Nghymru. 鈥淢ae鈥檔 ddiddorol o ran y byddem yn disgwyl i Gymru a鈥檙 Alban fod yn debyg, ond yr hyn a welwyd oedd bod Cymru yn nes at farn y mwyafrif yn y Lloegr nag y mae at yr Alban."
鈥淢ae鈥檙 negeseuon oddi wrth lywodraethau Cymru a鈥檙 Alban wedi bod yn gryf o blaid mewnfudo ers nifer o flynyddoedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o waith da a phwysig yn datblygu polis茂au megis y Fforwm Mewnfudwyr a鈥檙 Strategaeth Cynnwys Ffoaduriaid. Ond mae鈥檔 ymddangos bod pobl yn dal i fod ychydig yn anhapus gyda鈥檙 syniad o fewnfudo鈥.
鈥淓fallai mai鈥檙 rheswm am y gwahaniaeth hwn yw bod gan yr Alban lais economaidd a gwleidyddol cryfach na Chymru, a bod yr Alban yn gosod ei hagenda ei hun yngl欧n 芒 mewnfudo ac felly鈥檔 gallu 鈥榓msugno鈥檙鈥 mathau hyn o deimladau gwrth-fewnfudo, er mai dim ond i ryw raddau y gwneir hynny鈥.
Cyhoeddwyd adroddiad terfynol yr astudiaeth ym mis Mai 2012. I gael rhagor o fanylion am yr ymchwil ac i weld yr adroddiad llawn, ewch i .
Galwch weld fersiwn ar-lein o鈥檙 sylw a gafwyd yn y yma.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Gorffennaf 2012