Astudiaeth fyd-eang gyntaf: Gall morwellt ar wely鈥檙 m么r storio dwywaith gymaint o garbon 芒 choedwigoedd
Madagascar RAP 2010; Mangroves; Morwellt; Vohemar Bay 漏 Keith Ellenbogen/iLCP, Conservation InternationalMae ardaloedd o wely鈥檙 m么r sydd dan fygythiad byd-eang yn llefydd arbennig i storio carbon yn 么l papur a gyhoeddir yn y cyfnodolyn Nature Geoscience yr wythnos hon (20.5.11:doi:10.1038/ngeo1477).Yr astudiaeth 鈥淪eagrass Ecosystems as a Globally Significant Carbon Stock鈥 yw鈥檙 dadansoddiad byd-eang cyntaf o garbon wedi ei storio mewn caeau o forwellt.
Eglura o a chyd-awdur y papur: 鈥淢ae ein hastudiaeth yn dangos bod priddoedd morwellt, fesul ardal yr uned, yn gallu storio dwywaith gymaint o garbon 芒 phriddoedd yn y coedwigoedd tymherus a throfannol. A hyd yn oed yn fwy anhygoel, er bod caeau morwellt mewn llai na 0.2% o gefnforoedd y byd, maent yn storio 90% o鈥檜 carbon yn y pridd flwyddyn ar 么l blwyddyn, gan eu gwneud yn gyfrifol am dros 10% o鈥檙 carbon sydd wedi ei gladdu bob blwyddyn yn y cefnforoedd. Mae morwellt, sy鈥檔 tyfu yn ein moroedd arfordirol yn unigryw yn hyn o beth, gan eu bod yn gallu storio carbon yn eu gwreiddiau a鈥檙 pridd. Gwelodd ein hastudiaeth mai M么r y Canoldir yw鈥檙 rhanbarth daearyddol gyda'r crynodiad mwyaf o garbon, a bydd y caeau morwellt yn storio carbon am filoedd o flynyddoedd."
Llun agos o mat: Dyddodyn tebyg i fawn, a elwir gan amlaf yn mat neu matte, o ddarnau o blanhigion yn y pridd sydd wedi marw ac sydd wedi bod yn cronni dros 1,200 o flynyddoedd. Mae鈥檙 mat arbennig hwn yn crynhoi oddeutu 80gC/m2 y flwyddyn. 漏 Miguel AngeMae pwysigrwydd pellach i鈥檙 ymchwil hwn gan fod caeau morwellt ymhlith yr ecosystemau sydd dan fwyaf o fygythiad drwy鈥檙 byd. Mae oddeutu 29% o鈥檙 holl gaeau morwellt hanesyddol wedi cael eu dinistrio, yn bennaf oherwydd treillio a diraddio ansawdd y m么r. Hefyd mae o leiaf 1.5% o gaeau morwellt yn cael eu colli bob blwyddyn. Mae鈥檙 astudiaeth hon yn amcangyfrif y gall dinistrio caeau morwellt ollwng cymaint 芒 10% o鈥檙 carbon sy鈥檔 cael ei ryddhau ar hyn o bryd trwy newidiadau mewn defnydd tir yn yr amgylchedd daearol. Mae鈥檙 dinistrio hyn hefyd yn arwain at golli buddion eraill gan fod y caeau yn darparu cynefinoedd a meithrinfeydd i bysgod a physgod cregyn, sefydlogi gwaddodion, lleihau erydiad a diogelu arfordiroedd rhag llifogydd a stormydd.
Meddai : 鈥淕ellir gwyrdroi鈥檙 colledion hyn trwy adferiad ond bydd yn cymryd amser. I ddechrau, rhaid trin yr hyn sy鈥檔 dinistrio鈥檙 morwellt 鈥 dirywiad yn ansawdd y d诺r a llai o olau yn cyrraedd y morwellt 鈥 fel bod y cynefin yn cefnogi twf y morwellt unwaith eto. Unwaith bod cae wedi ei adfer mae crynodiad y carbon yn y priddoedd yn dechrau cynyddu eto a dangoswyd ei fod yn gallu dyblu mewn oddeutu 10 mlynedd.鈥
Madagascar RAP 2010; Mangroves; Morwellt; Vohemar Bay 漏 Keith Ellenbogen/iLCP, Conservation InternationalYn gyffredinol, mae鈥檙 canlyniadau'n dangos bod y caeau morwellt yn safleoedd allweddol i storio carbon. Gall cadw ac adfer caeau morwellt leihau allyriadau nwyon t欧 gwydr a chynyddu storfeydd carbon, fel a gynigir yn y mentrau 鈥淐arbon Glas鈥, a darparu gwasanaethau ecosystem pwysig i gymunedau arfordirol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2012