Astudiaeth yn datgelu symudiadau crwbanod m么r yn yr Unol Daleithiau
Am y tro cyntaf erioed cynhaliwyd astudiaeth ar symudiadau is-boblogaeth gyfan o grwbanod m么r. Mae鈥檙 astudiaeth yn cadarnhau y gellir defnyddio lloeren i wylio bywydau beunyddiol crwbanod m么r, er mwyn rhagfynegi鈥檔 fanwl gywir lle byddant yn symud, a helpu i gyfeirio鈥檙 gwaith o鈥檜 gwarchod.
Mae prif awdur yr adroddiad Diversity and Distributions, Dr Lucy Hawkes, sydd bellach yn Swyddog Ymchwil Ol-ddoethurol yn Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol 黑料不打烊, yn disgrifio symudiadau poblogaeth crwbanod m么r pendew ym M么r yr Iwerydd oddi ar yr Unol Daleithiau dros gyfnod o ddeng mlynedd (1998-2008). Mae鈥檙 canfyddiadau鈥檔 datgelu, er bod y crwbanod yn teithio miloedd o filltiroedd bob blwyddyn, mai鈥檔 anaml y byddant yn gadael dyfroedd yr Unol Daleithiau na鈥檙 sgafell gyfandirol. Gallai鈥檙 darganfyddiad hwn helpu i gyfeirio gwaith cadwraeth yr Unol Daleithiau i鈥檙 mannau lle mae鈥檙 angen mwyaf.
Mae鈥檙 gwaith monitro鈥檔 canolbwyntio ar grwbanod banw aeddfed sy鈥檔 nythu ar hyd yr arfordir o Ogledd Carolina i Georgia bob haf ac yn dangos eu bod yn chwilio am fwyd yn y dyfroedd cynnes bas oddi ar y rhan fwyaf o arfordir dwyreiniol yr Unol Daleithiau. Datgelodd yr astudiaeth fod y crwbanod sy鈥檔 teithio mor bell i鈥檙 gogledd 芒 New Jersey i chwilio am fwyd yn gorfod troi鈥檔 么l am y de i osgoi鈥檙 gaeaf oer yno.
Bu Dr Lucy Hawkes yn gweithio ar y project fel aelod o d卯m ymchwil ym Mhrifysgol Exeter fel rhan o鈥檌 hastudiaethau PhD yno. Meddai:鈥 Dyma鈥檙 tro cyntaf, hyd y gwyddom, i unrhyw un allu dweud yn union ble a phryd byddech yn dod o hyd i is-boblogaeth gyfan o grwbanod m么r. Mae hyn yn hynod o ddefnyddiol at bwrpasau cadwraeth oherwydd mae鈥檔 dweud wrthym ble鈥檔 union dylem gyfeirio ein hymdrechion. Fe wyddem fod lloeren yn arf defnyddiol, ond mae鈥檙 astudiaeth hon yn tanlinellu pa mor bwerus ydyw - hebddi ddim ond dyfalu byddem ni lle mae鈥檙 creaduriaid hardd ond bregus hyn yn byw.鈥
Mae Dr Brendan Godley a fu鈥檔 arwain t卯m Prifysgol Exeter wedi bod yn defnyddio lloerennau i olrhain a monitro crwbanod m么r ers 1997. Meddai: 鈥淭rwy gysylltu dyfeisiau olrhain lloeren fach i gregyn crwbanod gallwn fonitro鈥檔 fanwl gywir lle maen nhw鈥檔 mynd. Trwy weithio gyda biolegwyr a grwpiau cadwraeth ar draws y byd rydym yn dechrau adeiladu darlun llawer cliriach o fywydau crwbanod m么r gan gynnwys eu harferion mudo, bridio a bwydo. Mae鈥檙 canfyddiadau hyn yn adnodd gwerthfawr i grwpiau cadwraeth sy鈥檔 ceisio gwarchod crwbanod m么r rhag bygythiadau pysgota, llygredd a newid yn yr amgylchedd.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2011