Athro Cymraeg yn ennill Gwobr Barn y Bobl
Peredur Lynch yn derbyn Gwobr Barn y Bobl.: Hwalfraint Llenyddiaeth Cymru / Camera SionedMae cyfrol o farddoniaeth gan Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol 黑料不打烊 wedi ennill Gwobr Barn y Bobl 2018 yn ystod seremoni fawreddog eleni.
Gosodwyd, sef cyfrol gyntaf yr Athro Lynch, ar y rhestr Fer ar gyfer Barddoniaeth. Cwblhaodd y gyfrol yn ystod cyfnod sabothol yn Adran Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd Prifysgol Harvard yn yr UDA.
Meddai鈥檙 Athro Peredur Lynch wedi鈥檙 seremoni:
鈥淒wi鈥檔 falch iawn o鈥檙 wobr hon. Mae鈥檔 bleidlais o hyder gan y bobl bwysicaf ym myd llenyddiaeth - darllenwyr a phrynwyr llyfrau.鈥
Wedi ei chyhoeddi gan Gwasg Carreg Gwalch, mae鈥檙 gyfrol wedi derbyn adolygiadau gwresog mewn cyhoeddiadau megis Barddas (鈥淸c]yfrol gwbwl arbennig鈥 - Alan Llwyd), Barn (鈥渁wen a hanner yw hon鈥 - Derec Llwyd Morgan) ac O鈥檙 Pedwar Gwynt (鈥渞hin cyfoethog hen win鈥 - Gruffydd Aled Williams).
Blodau Cymru: Byd y Planhigion gan Dr Goronwy Wynne, Cymrawd er Anrhydedd o Brifysgol 黑料不打烊, sydd hefyd wedi derbyn PhD o Ysgol y Gymraeg, a enillodd prif wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn eleni yn ogystal 芒鈥檙 brif wobr yng nghategori鈥檙 Ffeithiol Greadigol.
Hefyd ar restr fer yr un categori oedd cyn-fyfyrwraig Ysgol y Gymraeg, Anne Elizabeth Williams gyda Meddyginiaethau Gwerin Cymru, a Dr Gwyneth Lewis, Cymrawd er Anrhydedd o Brifysgol 黑料不打烊 a Chyn Fardd Cenedlaethol Cymru, oedd wedi ei gosod ar restr fer y categori Barddoniaeth gyda鈥檌 chyfrol, Treiglo.
Mewn araith yn ystod y seremoni, dywedodd Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn: 鈥淢ae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn ddigwyddiad hanfodol bwysig yng nghalendr diwylliannol Cymru. Mae鈥檔 angenrheidiol fod gennym wobrau cenedlaethol i lyfrau sy鈥檔 rhoi llwyfan hafal i鈥檙 ffurfiau llenyddol amrywiol ac i ddwy lenyddiaeth Cymru. Rydym yn credu鈥檔 gryf fod angen dathlu rhagoriaeth llenyddol, ac mae鈥檙 gwobrau hyn yn ategu hynny鈥檔 flynyddol. Llongyfarchiadau i鈥檙 holl enillwyr!鈥
Dyfernir Gwobr Llyfr y Flwyddyn, a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru, i鈥檙 gweithiau gorau yn y Gymraeg a鈥檙 Saesneg ym meysydd ysgrifennu creadigol a beirniadaeth lenyddol a gyhoeddwyd mewn blwyddyn galendr o fewn tri chategori: Barddoniaeth, Ffuglen a Ffeithiol Greadigol.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mehefin 2018