Athro Cymraeg yn ymweld ag Ohio i ddathlu pedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl Saesneg y Brenin Iago
Gwahoddwyd yr Athro Peredur Lynch o Ysgol y Gymraeg i gymryd rhan mewn cyfres bwysig o ddarlithoedd ym Mhrifysgol Daleithiol Ohio er mwyn dathlu pedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl Saesneg y Brenin Iago ym 1611.
Bydd yn traddodi ei ddarlith ar 20 Mai yn y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau鈥檙 Oesoedd Canol a鈥檙 Dadeni, a hynny fel rhan o raglen o weithgareddau sy鈥檔 canolbwyntio, nid yn unig ar Feibl y Brenin Iago, ond hefyd ar ddylanwad y Beibl yn gyffredinol ar feddwl yr Oesoedd Canol a鈥檙 Cyfnod Modern Cynnar.
Teitl darlith yr Athro Lynch fydd 鈥楬unaniaeth Genedlaethol Gymreig a鈥檙 Beibl yn ystod yr Oesoedd Canol a鈥檙 Cyfnod Modern Cynnar鈥.
Yn 么l yr Athro Lynch, bydd ei ddarlith 鈥測n canolbwyntio ar y syniad o genedl etholedig yn y Beibl ac ar y modd y dylanwadodd y cysyniad hwnnw ar syniadau ynghylch hunaniaeth genedlaethol.鈥
鈥淵n sgil eu tr枚edigaeth at Gristnogaeth, aeth Beda ati i daflunio鈥檙 Eingl-Sacsoniaid fel yr Israel newydd. Y cwestiwn y bydda i yn ei wyntyllu yw i ba raddau y dylanwadodd y model rhagluniaethol a Beiblaidd hwn o genedl ar Gymru.鈥
Bydd ymweliad yr Athro Lynch 芒 Phrifysgol Ohio yn cyd-daro 芒 chyfarfod blynyddol Cymdeithas Astudiaethau Celtaidd Gogledd America, sy鈥檔 cael ei gynnal eleni yn y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau鈥檙 Oesoedd Canol a鈥檙 Dadeni. Hon yw鈥檙 gymdeithas academaidd amlycaf yng ngogledd America ym maes Astudiaethau Celtaidd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2011