Athro o Fangor yn cael ei benodi鈥檔 Is-Gadeirydd Seafish
Mae ecolegydd m么r, yr Athro Michel Kaiser o Brifysgol 黑料不打烊, wedi鈥檌 benodi鈥檔 Is- Gadeirydd bwrdd Seafish hyd Fawrth 2012.
Mae Seafish yn Gorff Cyhoeddus All-adrannol (Non-departmental Public Body neu NDPB), sy鈥檔 gweithio ar draws holl sectorau鈥檙 diwydiant bwyd m么r i hybu bwyd m么r cynaliadwy o ansawdd uchel.
Bydd yr Athro Kaiser, sydd hefyd yn bennaeth dros dro Ysgol Gwyddorau Eigion adnabyddus Prifysgol 黑料不打烊, yn cydweithio鈥檔 agos 芒鈥檙 Cadeirydd interim, John Whitehead.
Meddai鈥檙 Athro Kaiser am ei benodiad: 鈥淏ydd twf poblogaeth y byd yn rhoi pwysau cynyddol ar allu ein cefnforoedd i ddarparu ffynhonnell o brotein hanfodol o ansawdd uchel. Mae rheoli ein pysgodfeydd mewn modd cynaliadwy a chyfrifol o鈥檙 pwys mwyaf ac mae gan Seafish r么l allweddol i sicrhau y gall y diwydiant bwyd m么r gyflawni鈥檙 her honno.鈥
Meddai Mr Whitehead: 鈥淩wyf wrth fy modd bod Michel wedi鈥檌 benodi鈥檔 Is-Gadeirydd. Mae Michel eisoes wedi gwasanaethu fel aelod o鈥檙 bwrdd ers dros ddwy flynedd a daw 芒 chyfoeth o wybodaeth am bysgodfeydd ac amgylchedd y m么r gydag o.鈥
Mae ymchwil yr Athro Kaiser yn canolbwyntio ar effeithiau gweithgaredd dynol ar ecosystemau a chymunedau m么r a sut mae pobl yn ymateb i fesurau rheolaeth a ddefnyddir i ffrwyno鈥檙 gweithgareddau hyn.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2010