Band Jazz Tryfan yn ymuno 芒 Circa Tsuica ar gyfer eu sioe syrcas Now or Never
Sioe Circa Tsuica Now and Then: hawlfraint llun: V Berthe PommeryDaw鈥檙 cwmni Ffrengig Circa Tsuica 芒'u Pabell Fawr i Fangor gan ymuno 芒 Band Jazz Tryfan ar gyfer eu sioe syrcas ddiweddaraf, Now or Never.
Cyflwynir gan Crying Out Loud fel rhan o Circus250, dathliad cenedlaethol i nodi pen-blwydd y syrcas fodern yn 250 oed
Ar y 10fed o Fedi bydd un ar ddeg acrobat-cerddor y cwmni syrcas Ffrengig cyfoes nodedig, Circa Tsuica, yn cyrraedd 黑料不打烊 i godi eu Pabell Fawr goch a gwyn ar gae Coleg Menai ar Ffordd Ffriddoedd, ac yna creu pentref syrcas traddodiadol o'i hamgylch. Gall pobl yn pasio wylio'r Babell Fawr yn mynd i fyny, y pentref yn datblygu a'r cwmni'n paratoi ar gyfer y sioe, gan ailddyfeisio traddodiadau syrcas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Pan fydd drysau'r babell yn agor 13-15 Medi, gwahoddir y gynulleidfa i mewn i weld Now or Never, cyfuniad gwefreiddiol o acrobateg syfrdanol a rhythmau pres ffynclyd, lle mae acrobatiaid, cerddorion a chynulleidfaoedd i gyd yn chwarae eu rhan.
Wrth i'r parti ddechrau, mae'r perfformwyr yn cymysgu 芒'r dorf, gan wneud a rhannu cr锚pes Llydewig, cyn ymroi i wledd o gerddoriaeth a syrcas. Yna byddant yn hedfan, taflu eu hunain ac ymdroelli ar draws y babell hardd ar drap卯s, rhaffau tynn, olwynion Cyr, beics triciau, trampolinau a si-sos.
Tra bydd hyn yn mynd ymlaen bydd acrobatiaid-gerddorion Circa Tsiuca yn chwarae eu rhythmau pres taranllyd gyda chymorth gan gerddorion ifanc o Fand Jas Tryfan.
Band Jazz TryfanMeddai Rachel Clare, cyfarwyddwr artistig y cynhyrchwyr Crying Out Loud:
"Mae'n bleser mawr gennym ni ddod 芒 phrofiad syrcas newydd i chi i ddathlu Circus250, pen-blwydd arbennig ym myd y syrcas.Gan gyfuno llawenydd syrcas gerddorol Ffrengig gyda bandiau pres lleol, bydd pob fersiwn o Now or Never yn unigryw, gyda'r safle a chydweithredu agos 芒'r bandiau pres lleol yn dylanwadu arnynt. Bydd hwn yn achlysur cofiadwy, a chyfle i brofi'r gorau o ddiwylliant o ddwy ochr y sianel."
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Artistig Pontio, Elen ap Robert:
鈥淢ae鈥檔 hynod o braf gallu dod a鈥檙 sioe syrcas gyffrous hon i ganol cymuned 黑料不打烊 a gweld Band Jazz Tryfan yn perfformio ochr yn ochr 芒 Circa Tsuica unwaith eto. Dewch i fwynhau鈥檙 wledd o syrcas, cerddoriaeth, crempogau a gwin!鈥
Cefnogir taith Now or Never gan Ambition for Excellence gan ddefnyddio cyllid cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Lloegr.
Circa Tsuica: Now or Never
Pabell Fawr, Cae Friars, Coleg Menai, 黑料不打烊
13 Medi, 6.30pm
14 Medi, 6.30pm
15 Medi, 6.30pm
拢15 / 拢12 gostyngiadau
Gostyngiad o 10% i grwpiau o 5 neu fwy gyda'r cod: NOW10
Swyddfa Docynnau:
Ff么n: 01248 38 28 28
Dyddiad cyhoeddi: 6 Medi 2018