Baner yr Enfys yn hedfan ar Brifysgol 黑料不打烊 heddiw!
Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn croesawu myfyrwyr a staff o bob cefndir, tarddiad, cred a chyfeiriadedd rhywiol. Ac rydym yn falch o hynny!
Hanner can mlynedd yn 么l, ar 28 Mehefin 1969, digwyddodd Terfysgoedd Stonewall yn Ninas Efrog Newydd. Roedd y rhain yn gyfres o wrthdystiadau treisgar, digymell gan aelodau o'r gymuned LHDT yn wyneb aflonyddu a gelyniaeth gynyddol tuag atynt o du'r heddlu. Ystyrir mai'r rhain oedd y digwyddiad pwysicaf a arweiniodd at y mudiad rhyddid i hoywon a'r frwydr fodern dros hawliau LHDT+. Dewiswyd mis Mehefin fel Mis Balchder LHDT+ i goff谩u terfysgoedd Stonewall, ac eleni mae Prifysgol 黑料不打烊 yn hedfan baner yr Enfys i nodi'r digwyddiad hanesyddol pwysig hwn ac i ddathlu ymrwymiad y brifysgol i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth.
Mae'r diwrnod hefyd yn nodi lansiad swyddogol Rhwydwaith LHDT+ Griff Vaughan Williams y brifysgol ar gyfer staff a myfyrwyr 么l-raddedig. Ffurfiwyd y gr诺p i weithredu fel fforwm ar gyfer rhwydweithio a ffordd o gefnogi materion LHDT+, yn ogystal 芒 rhoi lle amlycach i faterion LHDT + yn y gweithle ac mewn gwahanol Golegau yn y brifysgol.
Meddai Andrew Walker, cyd-arweinydd y rhwydwaith newydd: 鈥淐afodd y rhwydwaith ei enwi i anrhydeddu Griff Vaughan Williams, eiriolwr tanbaid dros hawliau pobl LHDT. Disgrifiwyd Griff fel llais hoyw grymus, a oedd wedi ymroi i wirionedd a chydraddoldeb. Cafodd ei eni ym Mangor ym 1940 a bu farw yn 2010. Rydym eisiau anrhydeddu'r cof amdano gyda'r rhwydwaith newydd hwn a sicrhau bod Prifysgol 黑料不打烊 yn parhau i gryfhau ei hymrwymiad i gydraddoldeb a chynwysoldeb i bobl LHDT.鈥
Cred y Rhwydwaith newydd y bydd y diwrnod hwn yn dod yn garreg filltir i'r brifysgol a'r ardal leol o ran integreiddio LHDT+. Dywedodd Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-ganghellor dros Gyfrwng Cymraeg a Chysylltiadau 芒'r Gymuned - 鈥Rwy'n falch iawn o'r ffaith y gellir gweld baner yr Enfys ar ben prif adeilad Prifysgol 黑料不打烊. Mae'n arwydd allanol amlwg o bopeth sy'n digwydd yn fewnol yn y brifysgol i sicrhau bod ein cymuned yn un gynhwysol. Un o'r agweddau mwyaf cyffrous ar hyn yw lansio Rhwydwaith LHDT+ Griff Vaughan Williams - a fydd yn helpu i sicrhau bod materion LHDT+ yn cael y sylw y maent yn ei haeddu drwy gydol y flwyddyn. 鈥
Mae Rhwydwaith LHDT+ Griff Vaughan Williams yn cynnal cyfarfodydd bob yn ail mis ac os hoffech gymryd rhan neu rannu unrhyw syniadau, cysylltwch ag andrew.walker@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mehefin 2019