黑料不打烊 i groesawu Ysgolheigion o bwys
Bydd Prifysgol 黑料不打烊 yn croesawu arweinwyr rhyngwladol y dyfodol i astudio yn y Brifysgol o dan raglen Ysgoloriaethau Chevening, sydd yn rhaglen uchel ei pharch. Mae'r Brifysgol yn un o鈥檙 ychydig brifysgolion yn y DU i groesawu Ysgolorion Chevening ac yn ymuno 芒 phrifysgolion Caergrawnt a Durham wrth gynnig y rhaglen Ysgoloriaethau Partneriaeth Ganolog.
Rhaglen ysgoloriaethau fyd-eang llywodraeth y DU yw Ysgoloriaethau Chevening. Fe鈥檌 cyllidir gan y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad (FCO) ar y cyd 芒 sefydliadau partner. Mae'r rhaglen yn gwobrwyo darpar-arweinyddion disglair o bob cwr o'r byd i astudio cyrsiau 么l-radd mewn prifysgolion yn y DU.
Derbyniodd Prifysgol 黑料不打烊 dros 400 o geisiadau gan fyfyrwyr o dros 70 o wledydd yn cystadlu ar gyfer tair sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Mae'r Ysgoloriaethau鈥檔 galluogi'r myfyrwyr i astudio ar gyfer gradd Meistr yn un o feysydd datblygu blaenoriaeth pob gwlad unigol. Bydd yr Ysgoloriaethau ar gael am dair blynedd, felly bydd cyfanswm o naw o fyfyrwyr yn astudio ym Mangor o dan y rhaglen.
Mae鈥檙 myfyrwyr sy'n gwneud cais i Brifysgol 黑料不打烊 yn debyg o gael eu denu at arbenigedd nodedig y Brifysgol ym meysydd a . Mae'r rhain yn cael eu hystyried yn 'feysydd blaenoriaeth' a hefyd yn rhai o鈥檙 meysydd lle mae gan Brifysgol 黑料不打烊 arbenigedd penodol.
Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro John G Hughes:
"Mae鈥檔 anrhydedd i Brifysgol 黑料不打烊 ymuno 芒'r Swyddfa Dramor a鈥檙 Gymanwlad i gynnig yr ysgoloriaethau Chevening pwysig hyn. Mae gan bob Prifysgol gyfraniad i鈥檞 wneud o ran meithrin cysylltiadau da ledled y byd, a thrwy weithio mewn partneriaeth 芒 Chevening, gall Prifysgol 黑料不打烊 rymuso myfyrwyr i chwarae rhan lawn yn natblygiad cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol eu gwlad.鈥
Daeth y ceisiadau o amrywiaeth o wledydd, gan gynnwys Zambia, Yemen, Montenegro, Indonesia, Yr Ariannin, Bangladesh, Belize ac Ynysoedd y Philipinau. Bydd y myfyrwyr newydd yn cyrraedd ym Mangor ym mis Medi 2014.
Mae'r Brifysgol eisoes wedi croesawu nifer o ysgolorion Chevening y tu allan i'r cytundeb newydd hwn. Mae Ysgolorion Chevening sydd yn astudio ym Mangor ar hyn o bryd yn cynnwys myfyriwr o Malaysia sy'n astudio ar gyfer MA mewn Bancio a Chyllid Islamaidd a myfyriwr o Tsieina sy'n astudio ar gyfer gradd MSc mewn Bancio a Chyllid yng Nghanolfan Llundain y Brifysgol. Gwnaeth myfyriwr o Camer诺n gwblhau ei astudiaethau ym meysydd Cyfraith Hawliau Dynol Rhyngwladol a Chyfraith Droseddol Ryngwladol yn gynharach eleni.
Sefydlwyd cynllun Ysgoloriaeth Chevening yn 1983 ac mae鈥檔 croesawu myfyrwyr o 118 o wledydd ledled y byd (ac eithrio UDA a'r UE). Mae dros 42,000 o gyn ysgolorion Chevening ym mhob cwr o鈥檙 byd yn creu rhwydwaith fyd-eang ddylanwadol ac uchel ei pharch.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2013