黑料不打烊鈥檚 Students Union nominated for seven Awards
Mae Undeb y Myfyrwyr gweithgar Prifysgol 黑料不打烊 wedi ei enwebu am ddim llai na saith Gwobr yng Ngwobrau Blynyddol Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCM Cymru)
Bu panel o feirniaid annibynnol yn cwtogi鈥檙 rhestr hir o dros 80 o enwebiadau i lawr i鈥檙 rhestr fer ar gyfer Gwobrau eleni.
惭补别鈥檙 ei hun ym Mangor ar restr fer 鈥楿ndeb Myfyrwyr Addysg Uwch y Flwyddyn鈥 a Rhys Dart, Rheolwr yr Undeb, ar restr fer Gwobr Simpson-King i Aelod Staff y Flwyddyn mewn Undeb Myfyrwyr. Ac yntau鈥檔 Gadeirydd y Gymdeithas Ddaearyddol, sydd wedi鈥檌 henwebu am Wobr Clwb neu Gymdeithas y Flwyddyn, mae Chris Bibby yntau wedi鈥檌 enwebu am wobr Myfyriwr y Flwyddyn Endersleigh. Mae dau o Fangor ymhlith pedwar enwebiad am Gynrychiolydd Cwrs y Flwyddyn: Martyn Curzey, o y Brifysgol a Marta Napodano, sy鈥檔 cynrychioli ei chyd fyfyrwyr yn . Mae Katherine Young, sydd yn ysgrifennu i bapur Cymraeg y Brifysgol, Y Llef, ar restr fer gwobr Myfyriwr Newyddiadurol y Flwyddyn.
Meddai Antony Butcher, Llywydd Undeb y Myfyrwyr: 鈥淢ae鈥檔 wirioneddol wych gweld bod UCM Cymru鈥檔 cydnabod ein bod yn Undeb sy鈥檔 gweithio鈥檔 galed dros ein haelodau a chyda chymaint o fyfyrwyr a staff ymroddedig a dawnus. Fel yr ydym yn symud ymlaen tuag at ein cartref newydd yn Pontio, mae鈥檔 bwysig ein bod yn parhau i weithio鈥檔 galed i ddatblygu鈥檙 profiad a gaiff myfyrwyr a chael effaith bositif ar ein myfyrwyr. Rydym wedi鈥檔 plesio鈥檔 fawr ein bod yn un o bedwar enillydd posib Undeb Myfyrwyr AU y Flwyddyn ac yn edrych ymlaen at y noson wobrwyo yng Nghasnewydd - gan obeithio dod 芒 rhai o鈥檙 gwobrau鈥檔 么l i鈥檙 Gogledd.鈥
O ganlyniad i鈥檞 swydd fel Cadeirydd y Gymdeithas Ddaearyddol, mae Chris Bibby ar restr fer am wobr bersonol. Meddai, ar ran y Gymdeithas 鈥淩wy鈥檔 falch iawn ein bod wedi dod cyn belled, a thu hwnt i ddisgwyliadau鈥檙 pwyllgor. Ni fyddai鈥檔 bosib cyflawni cymaint heb waith arbennig ein pwyllgor ac ymdrech yr holl aelodau a鈥檙 staff, a fu'n mwynhau鈥檙 cyfan. Mae cael ein henwebu鈥檔 gryn gamp a byddai ennill yn golygu llawer i鈥檙 adran ym Mangor, y staff a鈥檙 myfyrwyr fel ei gilydd.鈥
Enillodd y Gymdeithas Ddaearyddol wobr 鈥楥ymdeithas y Flwyddyn鈥 a 鈥楪wobr Amgylcheddol鈥 Undeb Myfyrwyr 黑料不打烊 am eu hymdrechion diflino dros Fasnach Deg a鈥檙 鈥榃ythnos Ewch yn Wyrdd鈥. Yn yr un Gwobrau, enillodd Chris Bibby Wobr Aur a鈥檙 Is-gadeirydd, Charlie Wild, Wobr Arian am eu cyfraniadau clodwiw i鈥檞 hundeb myfyrwyr.
Meddai Marta Napodano, sydd ar restr fer am Wobr Cynrychiolydd Cwrs y flwyddyn: 鈥淢ae cael gwasanaethu fel Cynrychiolydd Cwrs Ysgol y Saesneg yn brofiad gwych. Fel myfyrwraig ryngwladol, roeddwn yn gweld yr un pryderon a chwestiynau a oedd gen i fy hun yn codi ymysg eraill, a chafodd bod o gymorth i fyfyrwyr yn ystod eu dyddiau dryslyd cyntaf yma gryn effaith arnaf. Roedd medru ateb hyd yn oed yr ymholiad lleiaf a rhoi gw锚n ar wyneb rhywun yn fwy na digon o wobr!鈥
Caiff yr enillwyr eu cyhoeddi ar 么l cinio mawreddog yng Ngwesty鈥檙 Hilton, Casnewydd, nos Fercher 13 Mawrth. Y panel annibynnol o feirniaid a fydd yn dewis yr enillwyr yw: Cyn Lywydd UCMC Vaughan Gething AC; Gareth Evans, Gohebydd Addysg y Western Mail a Jean McLean, Pennaeth Ymgyrchoedd Mudiad Achub y Plant.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mawrth 2013