黑料不打烊 yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd

Ar 24 Chwefror bydd Sefydliad Confucius Prifysgol 黑料不打烊 yn dod 芒 digwyddiad blynyddol y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn 么l i Fangor, gyda gorymdaith liwgar y ddraig a Gala Tsieineaidd i ddathlu 2018, Blwyddyn y Ci.
Bydd disgyblion o Ysgol Ein Harglwyddes yn ymuno 芒 pherfformwyr o Sefydliad Confucius Prifysgol 黑料不打烊 a Phrifysgol South Bank Llundain i gynnal arddangosfa liwgar o ddiwylliant Tsieina trwy gydol y prynhawn. Bydd draig Tsieineaidd yn ymlwybro ar hyd Stryd Fawr 黑料不打烊, yng nghwmni dawnswyr a drymwyr, gyda pherfformiad ysblennydd o ganeuon a dawns Tsieineaidd i ddilyn yn Eglwys Gadeiriol 黑料不打烊.
Dywedodd Deon Eglwys Gadeiriol 黑料不打烊, y Tra Pharchedig Kathy Jones:
"Rydym yn hynod falch o fedru cynnal y digwyddiad gwych hwn i'r gymuned yn Eglwys Gadeiriol 黑料不打烊 eleni. Mae'n ffordd ragorol o ddod 芒 phobl at ei gilydd ym misoedd oer y gaeaf i ddysgu mwy am y byd a thraddodiadau diwylliannau eraill."
Bydd gorymdaith y ddraig yn gadael Eglwys Gadeiriol 黑料不打烊 am 12pm ac yn gwneud ei ffordd ar hyd y Stryd Fawr at y Cloc ac yn 么l drachefn, a chynhelir y gala yn y Gadeirlan rhwng 12.30pm a 2pm, ac mae'r cyfan yn rhad ac am ddim. Y gwesteion arbennig fydd Maer Dinas 黑料不打烊, y Cynghorydd Derek Hainge, Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊, Yr Athro John Hughes, a'r actores leol Angharad Rhodes, sy'n fwyaf adnabyddus am ei rhan yn y gyfres deledu Melody ar CBeebies.
Bydd digwyddiad Sefydliad Confucius yn dilyn G诺yl Cymru-Tsieina Pontio (16-18 Chwefror) y penwythnos cynt, a fydd yn dathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd gyda phenwythnos o berfformiadau eclectig, ffilmiau, cerddoriaeth fyw a gweithgareddau i deuluoedd.
Mae rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau Sefydliad Confucius i'w gweld ar: .
Dyddiad cyhoeddi: 14 Chwefror 2018