BEACON Cymru yn gyd-sylfaenydd cynghrair newydd lansio i gefnogi twf bio-economi'r DU
Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn falch o fod yn rhan o gynghrair newydd yn y Deyrnas Unedig- , sy鈥檔 cael ei lansio i gefnogi twf bio-economi鈥檙 DU.
Mae y Brifysgol yn bartner ym mhroject arobryn , sydd yn un o bum canolfan Ymchwil a Datblygu sefydlog ar draws y DU sydd yn dod ynghyd i ffurfio鈥檙 gynghrair newydd, BioPilotsUK. Bydd y gynghrair yn ceisio gosod Prydain yn arweinydd byd-eang ym maes datblygu technoleg bio-buro, a chynhyrchu cynnyrch bioseiliedig - dwy elfen allweddol o'r bio-economi.
Pum canolfan sefydlu BioPilotsUK yw BEACON (Cymru), y Biorenewables Development Centre (BDC - Efrog), the Centre for Process Innovation (CPI - Redcar), IBioIC (Yr Alban) a The Biorefinery Centre (Norwich).
Mae BEACON yn gydweithrediad a ariennir gan yr Undeb Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru o dan arweiniad Prifysgol Aberystwyth 芒 Phrifysgolion 黑料不打烊 ac Abertawe ble mae gwyddonwyr yn arbenigo mewn bio-buro.
Mae BioPilotsUK yn cyfuno arbenigedd a chyfleusterau blaengar i lywio syniadau arloesol trwy鈥檙 hyn a elwir yn "ddyffryn marwolaeth" trwy ddangos prosesau a chynhyrchion bio-seiliedig newydd ar raddfa sydd yn fasnachol berthnasol; ac yn sgil hynny helpu cleientiaid i fuddsoddi yn y technolegau cywir i dyfu eu busnesau.
"Yr ydym oll yn ymwneud 芒 chefnogi symud oddi wrth adnoddau ffosil drwy wneud y defnydd gorau o ddeunyddiau bioradnewyddadwy a gwastraff na ellir ei osgoi," meddai Adam Charlton Rheolwr Project BEACON yng Nghanolfan Biogyfansoddion Prifysgol 黑料不打烊. "Fel cynghrair, fe allwn leihau y risg yn y broses o arloesi yn sylweddol ar gyfer unrhyw un sy'n archwilio syniad bio seiliedig."
Drwy weithio ar y cyd, mae'r gynghrair yn ceisio cyflymu yn sylweddol y broses o fasnacheiddio prosesau newydd gwyrdd a chynnyrch o fiomas, gan gynnwys: planhigion, alg芒u, a gwastraff.
Oherwydd natur amrywiol y deunyddiau crai hyn, neu porthiant, nid oes dull gweithredu "un maint i bawb" tuag at bio-buro, ond yn hytrach cyfres o dechnolegau y mae'n rhaid eu treialu a'u cyfuno. Yn awr, fe all y gynghrair newydd cydosod y t卯m cywir yn gyflym ar gyfer unrhyw brosiect bio-seiliedig gan ddefnyddio arbenigedd a chyfleusterau ar draws y pum canolfan.
Sefydlwyd BEACON yn 2011 a fe gyhoeddwyd buddsoddiad pellach gwerth 拢12 miliwn a gefnogir gan 拢8 miliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd gan Lywodraeth Cymru yn Rhagfyr 2015.
Mae鈥檙 bio-economi yn cynnig cyfle busnes byd-eang 拢aml-biliwn: mae'n werth tua 鈧2 triliwn yn Ewrop yn unig ac yn tyfu'n gyflym ledled y byd. Gan gynnig y potensial i ddarparu mwy o werth busnes trwy fanteision cymdeithasol, amgylcheddol ac ariannol, amcangyfrifir bod bio-economi'r DG eisoes yn werth 拢153 biliwn yn nhermau gwerth ychwanegol crynswth (GVA), gan greu dros 4M * o swyddi.
"Mi fydd BioPilotsUK yn galluogi Prydain i wireddu potensial i fanteisio ar bioadnoddau a biotechnoleg i greu cynnyrch diwydiannol newydd a phrosesau angenrheidiol ar gyfer gwlad sydd yn economaidd ac yn amgylcheddol gynaliadwy," medd Keith Waldron, Cyfarwyddwr, The Biorefinery Centre.
Yr Athro Iain Donnison o IBERS (Athrofa鈥檙 Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) Prifysgol Aberystwyth yw Cyfarwyddwr BEACON a dywedodd:
"Mae BEACON yn datblygu technolegau gwyrdd newydd i leihau allyriadau nwyon t欧 gwydr, sydd eu hangen i gyflawni cytundeb hinsawdd Paris a lofnodwyd gan arweinwyr y byd yn y Cenhedloedd Unedig yn gynharach eleni. Mae technolegau carbon isel o'r fath hefyd yn cynnig cyfleoedd newydd i gefnogi gweithgarwch economaidd a swyddi, yn y Gymru drefol a gwledig. "
Daw'r cyhoeddiad wrth agor cynhadledd flynyddol sy'n arwain y farchnad, yr European Forum in Industrial Biotechnology and the Bioeconomy (EFIB) 2016, sy'n cael ei chynnal yn Glasgow eleni.
* 鈥淏iotech Britain: An assessment of the impact of industrial biotechnology and bioenergy on the United Kingdom economy鈥 Capital Economics, Mehefin 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Hydref 2016