Beyond Borders
Mewn cydweithrediad 芒 Gogledd Creadigol, mae鈥檙 Ysgol Astudiaethau Creadigol a鈥檙 Cyfryngau, Prifysgol 黑料不打烊 yn cynnal digwyddiad rhwydweithio yn Pontio ar Ionawr 19eg o'r enw Tu Hwnt i鈥檙 Ffiniau.
Gobeithiwn mai hwn fydd y cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau i hybu cydweithio agosach rhwng y diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt a'n hymchwilwyr o fewn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, er mwyn datblygu cysylltiadau a phosibiliadau o gydweithio ar brosiectau a ffrydiau cyllido.
Mae'r digwyddiad cyntaf, Tu Hwnt i鈥檙 Ffiniau, yn edrych ar yr heriau / cyfleoedd sy'n wynebu'r diwydiannau creadigol yng Nghymru mewn cyd-destun rhyngwladol.
Prif nod y digwyddiad hwn yw archwilio cysylltiadau rhwng cynrychiolwyr y diwydiant a'n staff academaidd, ac adnabod cyfleoedd am gefnogaeth ariannol i fentrau sydd yn pontio鈥檙 byd academaidd a鈥檙 diwydiannau creadigol.
Byddwn yn ystyried cyfleoedd o fewn Cymru a thu hwnt, cydweithio rhwng disgyblaethau creadigol, ac effaith technolegau newydd ar yr ystod o arferion o fewn y sector creadigol a鈥檙 cyfryngau.
Er mwyn rhoi syniad o'r hyn fydd yn digwydd ar y diwrnod, byddwn yn cynnal sgyrsiau gyda (BBC/News International/Liberty Global) a Chris Payne ().
Byddwn hefyd yn clywed gan gydweithwyr yn ein hadran. Rydym yn gweithio ar feysydd sydd yn cynnwys dyfodol cyhoeddi, arloesi mewn gemau, Deallusrwydd Artiffisial (AI) Emosiynol, preifatrwydd a diogelu data, mynd i'r afael 芒 newyddion ffug, ffurfiau newydd o wneud rhaglenni dogfen, a strategaethau busnes newydd yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Mae鈥檙 dolenni cofrestru isod.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Dyddiad cyhoeddi: 12 Ionawr 2018