Breuddwydion Bro - Trigolion yn trafod cynllunio鈥檜 cymuned
Mae trigolion pentref yng Ngwynedd wedi bod yn astudio gorffennol a phresennol eu cymunedau er mwyn llunio cynlluniau ar gyfer darlun derbyniol o鈥檙 dyfodol.
Cynhelir cyfarfod cyhoeddus, lle rhoddir gwybodaeth am eu profiadau wrth ddilyn project Breuddwydion Bro - a all fod yn gynsail i鈥檞 ddefnyddio mewn ardaloedd eraill - yn stondin Prifysgol 黑料不打烊 ar faes yr Eisteddfod fore Mercher Awst 3 am 10.30.
Amcan Project Breuddwydion Bro yw galluogi cymunedau i elwa鈥檔 llawn ar yr adnoddau sydd o鈥檜 cwmpas gan sicrhau cynaladwyedd eu cymuned i鈥檙 dyfodol. Mae Breuddwydion Bro yn cael ei gynnal gan Brifysgol 黑料不打烊 fel un o brojectau Goleufa Cymru, a ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Cynghorau Ymchwil y DU a鈥檙 Wellcome Trust.
Yn y project, bu鈥檙 trigolion yn cyfrannu syniadau blaengar a newydd am sut i leihau allyriadau, hybu鈥檙 economi leol a chynnal traddodiadau a diwylliannau鈥檙 fro.
Meddai Dr Eifiona Thomas Lane o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth, sydd wedi bod yn arwain y project:
鈥淏u鈥檙 rhai a ddewisodd gymryd rhan yn disgrifio agweddau gwahanol ar eu cymunedau, gan gynnwys adeiladau a鈥檙 tirlun ac elfennau fel iaith, ffactorau economaidd neu鈥檙 ymdeimlad o gymuned.鈥
鈥淐afwyd trafodaeth am sut y daethpwyd i sefyllfa bresennol y gymuned, gan roi cyfle i aelodau h欧n y gymuned gyfrannu atgofion sut yr oedd pethau a pha newidiadau a fu.鈥
鈥淢ae yna gyfle hefyd i edrych at y dyfodol a dychmygu sut gymuned yr hoffai鈥檙 bobol ei gweld yn datblygu.鈥
Yn sgil y canlyniadau bydd cynllun gweithredu i鈥檙 gymuned yn cael ei lunio. Hefyd, bydd y canlyniadau鈥檔 cael eu rhannu efo awdurdodau cynllunio a datblygu lleol.
Os bydd yn llwyddiant gall y cynllun gael ei roi ar waith mewn cymunedau eraill gan roi llais i bobol wrth lunio dyfodol eu cymunedau.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011