Brwydr 黑料不打烊 yn erbyn Canser Ofar茂aidd
Mae dydd Sadwrn 4 Chwefror wedi鈥檌 ddynodi鈥檔 Ddiwrnod Canser y Byd. Bob blwyddyn, mae oddeutu 300,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser yn y DU. Oherwydd datblygiadau mewn gwaith ymchwil a thriniaeth at ganser, mae cyfraddau goroesi canser yn y DU wedi dyblu, ac erbyn hyn, mae hanner y bobl sy鈥檔 cael diagnosis o ganser yn goroesi am o leiaf 5 mlynedd.
Yn ddiweddar, mae wedi lansio鈥檙 ymgyrch , sydd yn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth a chodi proffil canser ofar茂aidd a鈥檌 symptomau. Canser yr ofari yw鈥檙 lladdwr gynaecolegol mwyaf yn y DU sy鈥檔 effeithio ar bron i 7,000 o fenywod bob blwyddyn. Ac yntau wedi鈥檌 alw鈥檔 鈥榣laddwr mud鈥, am ei fod yn hawdd drysu鈥檙 symptomau 芒 phroblemau eraill ar yr abdomen, mae canser ofar茂aidd yn anodd ei ganfod cyn iddo ymledu i rannau eraill o鈥檙 corff. Mae hyn yn ei wneud yn anodd ei drin ac, ar gyfartaledd, mae llai na thraean y cleifion yn goroesi am fwy na 5 mlynedd ar 么l diagnosis. Bydd cynyddu ymwybyddiaeth ymysg merched o鈥檙 symptomau cynnar yn arwain at ganfod y canser yn gynt ac yna鈥檔 cynyddu cyfraddau goroesi.
Rhan bwysig o鈥檙 frwydr yn erbyn canser yw deall y wyddoniaeth sylfaenol yngl欧n 芒 sut mae canser yn datblygu. Ar hyn o bryd, mae gwyddonwyr yn ym Mhrifysgol 黑料不打烊, Dr Ramsay McFarlane a鈥檙 Athro Nick Stuart, yn defnyddio鈥檙 technolegau diweddaraf i ganfod dangosyddion newydd o ganser mewn samplau cleifion 芒 thiwmor ofara茂idd.
Dywedodd Dr Ramsay McFarlane, 鈥淣od yr ymchwil hwn yw gwella鈥檙 diagnosis a thrin canser ofar茂aidd, gyda golwg tymor hir ar gynyddu鈥檙 cyfraddau goroesi ymysg menywod sydd 芒 chanser yr ofari.鈥
Dywedodd Anne Jackson, Prif Weithredwr Sefydliad Cronfa Ymchwil Canser y Gogledd-Orllewin, 鈥淓in nod yw nid yn unig codi ymwybyddiaeth am symptomau鈥檙 clefyd hwn, ond hefyd codi arian hanfodol i gefnogi gwaith anhygoel y mae ein hymchwilwyr yn ei wneud. Heb wybod beth sy鈥檔 achosi canser a sut mae鈥檔 ymledu, ni fyddwn byth yn dod o hyd i iach芒d.鈥
Am fwy o wybodaeth, neu os hoffech i gefnogi ymchwil , cysylltwch 芒 Dr Edgar Hartsuiker, NWCRF, Adeilad Brambell, Ffordd Deiniol, 黑料不打烊 LL57 2UW, e.hartsuiker@bangor.ac.uk neu ewch i .
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2012