BTO Cymru yn nythu yn eu swyddfa newydd yn y Brifysgol
Torrwyd cacen ddathlu gan Yr Athro John Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊 yn nerbyniad agoriadol Ymddiriedolaeth Adareg Prydain 鈥 Cymru (BTO) yn ddiweddar. Mae鈥檙 BTO newydd ymgartrefu mewn swyddfeydd newydd Adeilad Thoday wrth ymyl yr Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth (SENRGy). Rhoddodd Dr Christine Cahalan, Pennaeth SENRGy araith fer i groesawu'r BTO i'r Brifysgol, ac eiliwyd hi gan yr Is-Ganghellor.
Mae Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO) yn sefydliad ymchwil annibynnol sy'n cysylltu gwyddonwyr o blith y dinasyddion ag adaregwyr proffesiynol. Nod yr elusen yw defnyddio tystiolaeth o newid mewn poblogaethau bywyd gwyllt, yn enwedig adar, i hysbysu鈥檙 cyhoedd, y rhai sy鈥檔 ffurfio barn a pholisi amgylcheddol, a rhai sy鈥檔 gwneud penderfyniadau. Oherwydd safbwynt diduedd yr Ymddiriedolaeth, mae modd i鈥檙 Llywodraeth a sefydliadau cadwraethol ddefnyddio ei data a鈥檌 gwybodaeth. Yn ogystal 芒鈥檌 phencadlys yn Thetford, mae gan yr elusen swyddfa yn yr Alban (wedi鈥檌 lleoli ym Mhrifysgol Stirling) a swyddog BTO Iwerddon. Lansiwyd BTO Cymru yn swyddogol yn Sioe Frenhinol Cymru yn gynharach eleni.
Yr Is Ganghellor Artho John Hughes yn torri'r gacenMae gan BTO Cymru ddau aelod staff parhaol: Swyddog Datblygu Cymru, sef Kelvin Jones, a鈥檙 Uwch Ecolegydd Dr Rachel Taylor, a ymunodd 芒鈥檙 BTO o SENRGy dechrau mis Hydref. Roeddynt yn falch o groesawu nifer o aelodau staff y Brifysgol, ynghyd 芒 ffrindiau hen a newydd, o鈥檙 CCGC, RSPB, CEH, BSBI, Parc Cenedlaethol Eryri, Radio Cymru a鈥檙 Herald Cymraeg, ymysg rhai o gynrychiolwyr gwirfoddoli Rhanbarthol y BTO, ynghyd 芒 chofnodwyr data gwirfoddol brwdfrydig eraill y mae cymaint o waith pwysig cenedlaethol y BTO yn dibynnu arnynt. Cawsant eu hanrhydeddu hefyd gan ymweliad Mr Peter Hope Jones, sydd wedi cyfrannu mewn modd dihafal at adareg yng Nghymru.
Meddai Kelvin;
鈥漅ydym wedi derbyn croeso cynnes iawn yma yn y Brifysgol a theimlwn fod hyn yn ddechrau rhywbeth mawr ar gyfer y BTO yng Nghymru.鈥
Ychwanegodd Rachel;
鈥漅wy'n edrych ymlaen at y cyfle i barhau i adeiladu ar ein partneriaethau sy'n bodoli eisoes yng Nghymru, ac i ehangu ymchwil wyddonol y BTO er budd adar yng Nghymru. Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn fan cychwyn perffaith ar gyfer y fenter hon oherwydd y wybodaeth a鈥檙 profiad gwych a geir yma, ynghyd 芒 chysylltiadau agos 芒 CCGC, RSPB ac eraill鈥.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2011