Byddwch Fentrus yn lansio Cronfa Ddechrau Newydd
Weithiau cyllid yw鈥檙 unig beth sy鈥檔 rhwystro datblygiad syniad ar gyfer cynnyrch neu wasanaeth newydd. Gyda hyn mewn cof, mae鈥檙 yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd wedi datblygu cynllun sy'n gwbl newydd i Brifysgol 黑料不打烊. Hwn yw'r Gronfa Ddechrau, lle gall myfyrwyr unigol, grwpiau neu gymdeithasau Undeb y Myfyrwyr gyflwyno syniad busnes. Yna, caiff y rhai a roddir ar y rhestr fer gyfle i gyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid. Trwy鈥檙 cynllun hwn, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru, gall myfyrwyr ennill hyd at 拢150 o arian i gymryd y camau cyntaf i fyd busnes.
Yn y rownd gyntaf ddechrau Tachwedd cafwyd ystod gyffrous o syniadau newydd. Fe wnaeth panel o bum beirniad ystyried y syniadau ar y rhestr fer yn erbyn meini prawf ymarferoldeb ac arloesi. Dyfarnwyd y wobr gyntaf o 拢150 i Thomas Potter, myfyriwr 么l-raddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion, am syniad arloesol yn ymwneud 芒 chadw gwenyn trwy gysylltu 芒鈥檙 gymuned leol. Yn gydradd ail cafwyd cynigion gan Streetlaw, 黑料不打烊 Special Olympics a Recipe in a Jar ac yn gydradd drydydd daeth BUBES (黑料不打烊 Business & Enterprise Society), OTC a New Music Concert. Llongyfarchiadau i鈥檙 holl enillwyr a diolch i鈥檙 holl gyfranwyr.
鈥淢ae鈥檔 rhyfeddol gweld cynlluniau myfyrwyr yn ystod gwahanol gamau eu datblygiad, o ddechrau syniad arloesol i gynllun busnes cyflawn. Dwi鈥檔 teimlo ei bod yn fraint gwneud cyfraniad bychan at y twf hwnnw.鈥 Ffion Llwyd-Jones, FLJ Media
Rydym ni yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cael ein synnu鈥檔 gyson gan nifer y syniadau busnes arloesol rydym yn dod ar eu traws gan fyfyrwyr o bob disgyblaeth. Cynhyrchir rhai ar gyfer cystadlaethau a digwyddiadau arbennig, tra bo eraill yn syniadau sydd wedi bod ar y gweill mewn rhyw ffordd neu鈥檌 gilydd ers blynyddoedd. Mae鈥檙 cynllun newydd hwn yn ein galluogi i hyrwyddo鈥檙 ffrwd greadigol hon a'u galluogi i fynd 芒'u cynlluniau ymlaen i'r cam nesaf. Bydd myfyrwyr sy鈥檔 cymryd rhan yn ennill pwyntiau ychwanegol tuag at Gwobr Cyflogadwyedd 黑料不打烊. Bydd cyfle arall i fyfyrwyr gyflwyno eu syniadau yn semester dau.
Myfyrwyr a ddaeth i鈥檙 Rownd Derfynnol:
Cadw Gwenynod - Thomas Potter, Ysgol Gwyddorau Eigion
Streelaw 鈥 Iwan Emlyn Jones, Joshua Simpson, Thomas Pugh Jones, Ysgol y Gyfraith
黑料不打烊 Special Olympics - Lucy Bryning , Stacey Hunter, Ceri Christian Jones 鈥 Ysgol Seicoleg
Claire Massey , Niamh-Elizabeth Reilly 鈥 Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer
Recipe in a Jar 鈥 Natalie Pluck, Lisa Marie Oliver 鈥 Ysgol Seicoleg, Adam Sharpley, Ysgol Gwyddorau Biolegol
黑料不打烊 Officer Training Corp (OTC) - Lindsay Hurst , Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, Harry McCarthy, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg
黑料不打烊 Business & Enterprise Society (BUBES) 鈥 Samantha Austin & Matthew Jackson, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg
New Music Concert 鈥 Allen Ince, Robert Thompson 鈥 Ysgol Cerddoriaeth
Byddai鈥檙 t卯m Byddwch Fentrus yn falch o nawdd neu roddion gan unrhyw un sydd eisiau cefnogi鈥檙 fenter myfyrwyr 鈥 cysylltwch 芒 Michelle Hamlet os gwelwch yn dda: B-enterprising@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 21 Tachwedd 2011