Cadeiryddiaeth Pwyllgor BMA dylanwadol i Fangor
Mae鈥檙 Athro Michael Rees, Athro mewn Gwyddorau Fasgwlaidd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol 黑料不打烊, wedi cael ei ethol i swydd allweddol o fewn y BMA (Cymdeithas Feddygol Prydain). Mae wedi鈥檌 ethol am dymor ychwanegol, yn Gadeirydd ar Bwyllgor Staff Meddygol Academaidd y BMA, ar gyfer 20011-12.
Oherwydd pwysau gwaith cynyddol ar y swydd bwysig hon, bydd yn cyd-gadeirio鈥檙 swydd 芒鈥檙 Athro Peter Dangerfield o Brifysgol Lerpwl.
鈥淩wy鈥檔 falch fod yr Athro Rees wedi鈥檌 ail-ethol i鈥檙 swydd bwysig hon,鈥 meddai鈥檙 Is-Ganghellor, yr Athro John G. Hughes. 鈥淢ae鈥檔 cadarnhau ymddiriedaeth y BMA yng ngalluoedd a chyfraniad yr Athro Rees. Mae hefyd yn dangos bod gan brifysgolion fel 黑料不打烊 gymaint i鈥檞 gynnig ag ysgolion meddygol prif-ffrwd y prifysgolion mawrion.鈥
鈥淩wyf wrth fy modd cael gwasanaethu fel Cadeirydd ar Bwyllgor Academaidd y BMA. Yn ogystal 芒 chyfrannu at faterion y DU ac Ewropeaidd, mae鈥檙 apwyntiad hefyd yn caniat谩u i mi fod yn llysgennad dros Fangor a鈥檌 chefnogaeth at y byd academaidd clinigol a fydd yn parhau i ffynnu yng ngogledd Cymru,鈥 meddai鈥檙 Athro Rees.
Bydd yr Athro Rees yn parhau i gynrychioli buddiannau academyddion meddygol mewn prifysgolion ac ysbytai athrofaol ar draws Prydain yn eu hymwneud 芒鈥檙 llywodraeth, cyflogwyr ac undebau. Mae鈥檔 ymwneud 芒 rhoi cyngor ar faterion megis contractau a strwythurau gyrfa a sicrhau bod cyflogau academyddion meddygol yn parhau ar yr un graddfeydd 芒鈥檜 cydweithwyr meddygol o fewn y Gwasanaeth Iechyd. Mae hwn yn un o鈥檙 pwyllgorau pwysicaf o fewn y BMA.
Mae鈥檙 Athro Rees hefyd yn aelod o Bwyllgor Llywio鈥檙 Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCRH) ac yn cynrychioli鈥檙 proffesiwn meddygol ar bwyllgor Ymgynghorol Addysg Iechyd y DU yn ogystal 芒 bod yn gynrychiolydd academyddion clinigol ar y Cyfnewid Strategol Cenedlaethol ar Addysg Iechyd (Health Education National Strategic Exchange) rhwng yr Adran Iechyd a鈥檙 Adran Busnes, Mentergarwch a Sgiliau.
Astudiaethau fasgwlaidd a delweddu yw meysydd diddordeb clinigol yr Athro Rees. O fewn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru, mae wedi cyfrannu tuag at adeiladu鈥檙 gwasanaethau ar gyfer trin clefyd y galon ac wedi sefydlu cyfleusterau MRI a meddygaeth niwclear newydd. Mae hefyd wedi mentora鈥檙 ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer gwobrwyon NISCHR ac wedi cyfrannu at ddyrannu statws uned ymchwil biofeddygol i Brifysgol 黑料不打烊.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mehefin 2011