Camelot Arthur 鈥 ydy鈥檙 chwilio wedi dod i ben o鈥檙 diwedd?
Blaendalen un o'r llyfrau yng nghasgliad llyfrau prin sy'n ymwneud 芒 chwedlau Arthuraidd sydd yn Llyfrgell Prifysgol 黑料不打烊Mae'r ymdrech i ddod o hyd i Camelot y Brenin Arthur wedi peri penbleth ac wedi ennyn chwilfrydedd ysgolheigion a selogion ers mil o flynyddoedd. Bellach, mae'n bosib bod y chwilio ar ben o鈥檙 diwedd.
Mae Peter Field, Athro Emeritws mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol 黑料不打烊, wedi datgelu'r hyn y mae'n credu yw safle Camelot Arthur- ac mae鈥檙 troi allan i fod yn hen gaer Rufeinig fach yn Slack, ar gyrrion Huddersfield, Gorllewin Swydd Efrog. (Diweddarwyd 20.12.16)
Yn y cyfnod Rhufeinig, enw鈥檙 gaer oedd Camulodunum, sef Caer y duw Camul". Dros y blynyddoedd, mae prosesau ieithyddol wedi cwtogi Camulodunum i Camelot.
Er bron yn angof ac yn ansylweddol heddiw, ac er ei fod wedi ei adael ac yn adfeiliedig yn y cyfnod perthnasol, tua A.D. 500, dadlau鈥檙 Athro Field y byddai鈥檙 safle yn Slack yn cael ei hystyried fel cadarnle strategol.
Yn y cyfnod, roedd yr Eingl-sacsonaidd wedi meddiannu llawer o鈥檙 arfordir i鈥檙 dwyrain a de Prydain, ond roedd y Brythoniaid oes yn siarad iaith Geltaidd yn teyrnasu yn y gogledd a鈥檙 gorllewin. Caer oedd y cyrchfan amlwg i鈥檙 Brythoniaid a oedd am ymwrthod, a鈥檙 man yr oedd angen ei warchod os nad oeddent am golli鈥檙 arfordir dwyreiniol u gyd oedd Efrog.
Mae Slack ar y ffordd Rufeinig rhwng caer ac Efrog, a dim llai strategol o鈥檙 herwydd.
Mae'r Athro Field yn arbenigwr byd-enwog ar lenyddiaeth Arthuraidd ac meddai:
鈥極s oedd yna Frenin Arthur go iawn, byddai wedi byw tua AD500, er bod y cyfeiriad cyntaf ato yn Camelot i鈥檞 weld mewn cerdd Ffrangeg o ranbarth Champagne yn Ffrainc o 1180.
Nid oes dim s么n am Camelot yn y cyfnod rhwng y dyddiadau hynny, a elwir yn Oesoedd Tywyll yn Saesneg , pan oedd y wlad yn rhyfela, a fawr ddim wedi ei gofnodi. Yn y bwlch hwn, roedd pobl yn trosglwyddo gwybodaeth, a llawer ohoni鈥檔 mynd ar goll wrth ei throsglwyddo. Gallai pobl fod wedi creu ffeithiau dychmygol neu ddim ond wedi cymysgu gwybodaeth hysbys.
Mae chwedlau Arthur wedi diddanu darllenwyr i lawr yr oesoedd- dyma lun gan yr artist poblogaidd Sir Arthur Rackham- eto o un o lyfrau yng nghasgliad y Brifysgol.Gyda'r wybodaeth orau sydd ar gael, a鈥檙 dyfaliadau gorau y gellid eu gwneud, y gred ers talwm yw y gallai Camelot fod wedi ei leoli mewn lleoedd fel Caerllion, yn Ne Cymru, Winchester neu Gastell Cadbury.鈥
Ond mae dod o hyd i wir safle Camelot wedi bod yn dasg rwystredig ac anodd. Mae鈥檙 pwnc wedi bod yn destun diddordeb ysol i鈥檙 Athro Field, a ddaeth i Brifysgol 黑料不打烊 yn 1964 ac a ymddeolodd yn 2004, ac mae wedi treulio鈥檙 18 mis diwethaf yn ymchwilio i safle Camelot.
鈥淩wyf wrth fy modd yn gwneud hyn," meddai鈥檙 Athro Field, "ond lwc mul oedd hi fy mod i鈥檔 edrych ar rai mapiau, ac yn sydyn iawn dyma鈥檙 holl ddarnau鈥檔 disgyn i鈥檞 lle鈥. 鈥淩wy'n credu efallai fy mod wedi datrys dirgelwch 1400 oed.!鈥
Mae'r cyhoeddiad am yr Athro Field yn amserol, gan ei fod yn digwydd wrth i Gymru ymbaratoi i ddathlu 'Blwyddyn Chwedlau'. Yn ystod 2017, bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal mewn safleoedd hanesyddol ar hyd a lled Cymru i ddathlu ei diwylliant a'i threftadaeth gyfoethog.
Roedd y ddarlith yn nodi agoriad swyddogol Canolfan Stephen Colclough ar gyfer Hanes a Diwylliant y Llyfr a cheir rhagor o wybodaeth am y Ganolfan yma http://colclough.bangor.ac.uk/index.php.cy
Diweddariad: Ymddengys bod dau le o'r enw Slack wedi bodoli yn Swydd Efrog, tua deg milltir ar wah芒n. Defnyddiodd yr Athro Field mynegai daearyddol oedd 芒 chyfeiriad at ddim ond un Slack, yr un ger Hebden Bridge. Lleolwyd y gaer Rufeinig y mae鈥檙 Athro Field yn cyfeirio ato ger neu o dan M62 a chwrs golff ger Huddersfield. Mae gweddill ei ddamcaniaethau yn sefyll.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2016