Canlyniadau cynnar ymchwil yn datgelu barn pobl ifanc am iechyd meddwl
Nid yw gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobol ifanc yng Nghymru yn cyrraedd y safonau yn 么l canfyddiadau ymchwil gynnar (17 Tachwedd).
Adroddwyd ar y canfyddiadau yn ystod lansiad Arsyllfa@黑料不打烊, cangen gogledd Cymru Arsyllfa Cymru ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc, sydd wedi ei leoli yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol 黑料不打烊.
Project ar y cyd yw鈥檙 Arsyllfa, gyda phartneriaid rhyngwladol, cenedlaethol a lleol. Mae鈥檔 darparu fforwm ar gyfer ymchwil, trafodaeth, addysg a chyfnewid gwybodaeth am hawliau dynol plant a phobl ifanc, gan weithio tuag at wireddu hawliau dynol trwy bolisi, ymarfer, eiriolaeth a diwygio鈥檙 gyfraith. Bellach, gyda swyddfeydd ym Mhrifysgolion Abertawe a 黑料不打烊, bydd yr Arsyllfa yn dod 芒鈥檙 gorau o ran ymchwil, theori, gwybodaeth ymarferol a phrofiad at ei gilydd er mwyn dylanwadu ar bolisi cyhoeddus, diwygio鈥檙 gyfraith, hyfforddiant proffesiynol ac ymarfer.
Mae鈥檙 ymchwil ddiweddaraf, ar y cyd ag elusennau iechyd meddwl Hafal, y Sefydliad Iechyd Meddwl, Bipolar UK, a Diverse Cymru, yn gweithio gydag Arsyllfa Cymru ar Hawliau Plant a Phobl Ifanc i ganfod sut mae modd gwella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
Mae pobl sydd 芒 phrofiad o CAMHS, fel gofalwyr neu ddefnyddwyr gwasanaeth, wedi bod yn rhannu eu barn drwy arolwg ar-lein. Mae plant a phobl ifanc o dan 25 mlwydd oed hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn ysgolion.
Mae鈥檙 canfyddiadau cychwynnol o fwy na 200 o bobl yn awgrymu bod tri chwarter o ddefnyddwyr CAMHS wedi cael profiad negyddol. Dywedodd bron i 75% o ddefnyddwyr CAMHS bod y gwasanaeth a dderbyniwyd wedi bod yn araf i ymateb, ac nid oedd hanner yn teimlo bod y gwasanaeth wedi eu cadw鈥檔 ddiogel.
Bydd panel o bobol ifanc o ogledd Cymru sydd 芒 phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yn trafod y canfyddiadau gyda staff cysylltiol ag Arsyllfa@黑料不打烊 a phartneriaethau elusennol fel rhan o lansio鈥檙 Ganolfan. Gyda'i gilydd, fe wnaethant argymhellion er sylw adolygiad cyfredol y gweinidog iechyd o CAMHS.
Yr Athro Dermot Cahill, Pennaeth Ysgol y Gyfraith, Yr Athro Jane Williams, Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru yn lansio'r Arsyllfa efo'r Is ganghellor, Yr Athro John G Hughes a Dr Yvonne McDermott-Rees.Wrth lansio鈥檙 Arsyllfa@黑料不打烊, meddai鈥檙 Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:
鈥淢ae gan yr Arsyllfa ran bwysig i'w chwarae o ran datblygu ein dealltwriaeth o roi hawliau plant ar waith yn ymarferol yng Nghymru. Rydw i'n croesawu'r dull cydweithredol sy'n cael ei ddatblygu ar draws sefydliadau academaidd a thu hwnt. Mae鈥檔 bwysig ein bod yn dod 芒 hawliau plant yn fyw drwy fonitro a herio'r ffordd yr ydym yn cyflwyno gwasanaethau i'n plant a'n pobl ifanc. Rydw i'n gweld yr Arsyllfa'n chwarae rhan bwysig yn yr agenda hwn. Gobeithio y byddaf yn gallu gweithio gyda'r arsyllfa a defnyddio'r dadansoddiadau dros y 7 mlynedd y byddaf yn y swydd, ond hefyd, yn bwysig iawn, bydd yn parhau'n ffynhonnell annibynnol o ddadansoddi ac adfyfyrio beirniadol ym maes hawliau plant yng Nghymru, a thu hwnt.鈥
Dywedodd yr Athro John G Hughes, Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊:
鈥淢ae cyfraniad Ysgol y Gyfraith Prifysgol 黑料不打烊 yn awr yn gwneud ymchwil yr Arsyllfa yn rhywbeth i Gymru gyfan. Rwyf wrth fy modd bod fy nghydweithwyr yn gwneud y cyfraniad hollbwysig hwn. Bydd y cydweithio agos yn ychwanegu at effaith eu hymchwil.鈥
鈥淢ae hwn yn gyfle gwych i brifysgolion 黑料不打烊 ac Abertawe, fel ei gilydd,鈥 meddai鈥檙 Athro Cysylltiol, Jane Williams, cyd-Gyfarwyddwr Sefydlol Arsyllfa Cymru. 鈥淥 hyn ymlaen, bydd yr Observatory@黑料不打烊 补鈥檙 Observatory@Swansea, gan gydweithio ar draws disgyblaethau yn ein dwy brifysgol, yn gallu hyrwyddo ein gwaith ar hawliau plant yn well trwy Gymru benbaladr.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2015