Canolfan Bedwyr yn Agor ei Drysau i鈥檙 Byd
Mr Wyn Thomas a Dr Llion Jones y tu allan i gartref newydd Canolfan Bedwyr Bydd nifer o brojectau arloesol sy鈥檔 hyrwyddo a chefnogi defnydd o鈥檙 Gymraeg yn cael eu dathlu heddiw (12 Hydref 2011) wrth i Ganolfan Bedwyr, canolfan gwasanaethau Cymraeg Prifysgol 黑料不打烊, agor drysau ei chartref newydd i鈥檙 cyhoedd
Mae Canolfan Bedwyr, sy鈥檔 dathlu ei phen-blwydd yn 15 oed y mis hwn, wedi symud i adeilad ysblennydd Neuadd Dyfrdwy sy鈥檔 rhan o鈥檙 Ganolfan Rheolaeth ar Ffordd y Coleg. Bydd y ganolfan yn agor drysau ei swyddfeydd newydd rhwng 11 a 5 heddiw er mwyn i staff a myfyrwyr y Brifysgol a鈥檙 cyhoedd yn gyffredinol gael cyfle i ddysgu mwy am y gwaith sy鈥檔 digwydd yno.
Dros y blynyddoedd, mae Canolfan Bedwyr wedi ennill bri cenedlaethol a rhyngwladol, nid yn unig am ei gwaith yn datblygu a hyrwyddo鈥檙 Gymraeg yn y Brifysgol ei hun ond hefyd am ei gwaith yn hwyluso defnydd ohoni yn llawer ehangach. Mae rhai o brojectau diweddaraf y ganolfan yn adlewyrchu鈥檙 gwaith y mae鈥檙 Ganolfan yn ei wneud yn y Brifysgol a鈥檙 byd mawr. Ar gyfer anghenion mewnol y Brifysgol, datblygwyd systemau rheoli llif gwaith a chof cyfieithu ar gyfer yr uned gyfieithu yn ogystal 芒 gwefan 鈥楥ymorth Cymraeg鈥 ar gyfer hwyluso defnydd o鈥檙 Gymraeg ymhlith staff a myfyrwyr. Yn allanol, mae鈥檙 ganolfan wedi sicrhau cytundebau gan Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru i arwain cynllun i ddatblygu sgiliau Cymraeg athrawon a darlithwyr ac i ddatblygu terminoleg ar gyfer y sectorau uwchradd ac addysg bellach.
Mae Canolfan Bedwyr hefyd yn gweithredu fel cangen weinyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mangor ac mae鈥檙 cartref newydd ar Ffordd y Coleg yn darparu presenoldeb gweladwy i鈥檙 Coleg Cymraeg ar gampws Prifysgol 黑料不打烊.
Dywedodd Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr y Ganolfan: 鈥淲rth i ni agor ein drysau a gwahodd pobl i brofi鈥檙 gwaith arloesol sy鈥檔 digwydd yn y ganolfan, rydym yn dathlu nifer o ddatblygiadau sydd yn cyfrannu鈥檔 ymarferol at nod Llywodraeth Cymru o gynyddu defnydd o鈥檙 Gymraeg. Ar yr un pryd, rydym yn falch o fod yn ganolbwynt i ymdrechion Prifysgol 黑料不打烊 i ddatblygu a chryfhau ei safle fel y Brifysgol arweiniol o ran y Gymraeg ac addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg鈥.
Darlithwyr newydd ( chwith-dde) Dr Myfanwy Davies, Enlli Huws, Dr Manon Jones, Dr Paula Roberts, Dr Manon Mathias a ( canol) Dr Owain Llwyd (yn absennol o'r llun mae Dr Craig Owen Jones) Dywedodd Mr Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊 gyda chyfrifoldeb penodol am y Gymraeg: 鈥淩ydw i鈥檔 eithriadol o falch fod y Brifysgol wedi gallu rhoi i Ganolfan Bedwyr y cartref teilwng y mae ei gwaith blaengar yn ei haeddu gan ddarparu man canolog hefyd ar gyfer gweithgarwch y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mangor.鈥
Am ragor o wybodaeth am waith Canolfan Bedwyr, cysylltwch 芒 Dr Llion Jones ar 01248 388054 neu e-bostiwch llion.jones@bangor.ac.uk.
Gweler hefyd wefan y Ganolfan
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2011