Canolfan Cymraeg i Oedolion ar y brig
Mae dysgwyr y Gymraeg drwy Gymru gyfan wedi lleisio eu barn am y cyrsiau Cymraeg i ddysgwyr, ac mae wedi sgorio鈥檔 sylweddol uwch na鈥檙 cyfartaledd cenedlaethol.
. Mae ffigyrau arolwg blynyddol gan Ipsos MORI, ar ran llywodraeth Cymru, yn dangos yn glir fod Canolfan CiO y Gogledd yn cynnig gwasanaeth o鈥檙 radd flaenaf i ddysgwyr. Mae鈥檙 data yn dangos fod bodlonrwydd dysgwyr yn y gogledd yn sylweddol uwch na鈥檙 cyfartaledd cenedlaethol gyda:
- 95% o ddysgwyr y gogledd yn meddwl fod darparwyr y cyrsiau yn dda neu鈥檔 dda iawn (93% yn 2013) a dim un dysgwr yn meddwl eu bod yn wael. Mae hyn yn cymharu 芒 chanran o 87% ar gyfartaledd trwy Gymru
- Mae 95% o ddysgwyr y gogledd hefyd yn meddwl fod eu cyrsiau yn cyfarfod 芒鈥檜 disgwyliadau neu鈥檔 well na hynny. Hyn yn cymharu 芒 92% trwy Gymru ar gyfartaledd
Wrth ddadansoddi boddhad dysgwyr y gogledd yn gyffredinol, o鈥檙 5 cwestiwn a gafwyd, roedd y Ganolfan yn rhagori鈥檔 sylweddol ar y cyfartaledd cenedlaethol ymhob cwestiwn, ac mewn 3 chwestiwn yn cyrraedd lefel Rhagorol, sy鈥檔 atgyfnerthu canfyddiadau Estyn yn 2012 a ddyfarnodd y Ganolfan fel un Rhagorol; yr unig un yng Nghymru. Ymysg yr adborth a dderbynniwyd yn ddi-enw drwy鈥檙 adroddiad gan y dysgwyr cafwyd sylwadau megis:
鈥渆xcellent teaching delivered in a fun way which keeps people interested and motivated鈥
鈥 鈥 provides many different methods to help us learn Welsh, inside and outside of class鈥
鈥淭he tutors are friendly and helpful鈥 would recommend this course to anybody鈥
鈥淭he course is very structured, meaning you are always learning new things whilst reinforcing the older stuff鈥
Dywedodd Ifor Gruffydd, Cyfarwyddwr Canolfan CiO y Gogledd
鈥淩ydym yn falch iawn fod llais y dysgwyr yn adlewyrchu鈥檙 gwaith ardderchog mae ein tiwtoriaid yn ei wneud drwy鈥檙 flwyddyn. Ethos y Ganolfan yw cynnig y safon uchaf posib, ac fe fyddwn yn parhau i wrando ar ein dysgwyr a thrafod gyda hwy er mwyn cynnal ein safonau yn y dyfodol鈥
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2014