CD myfyriwr yn ddewis CD Roc a Phop yr wythnos yn The Sunday Times
Mae myfyriwr trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol 黑料不打烊 wedi dechrau鈥檙 flwyddyn ar nodyn uchel- gan fod CD newydd ei fand Y Niwl o鈥檙 un enw, wedi derbyn y clod o鈥檌 ddethol yn CD yr wythnos gan bapur newydd y Sunday Times yn eu hatodiad diwylliant.
Gruff ab Arwel, sy鈥檔 astudio Cerddoriaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yw organydd a gitarydd y gr诺p.
Mae鈥檙 adolygiad ffafriol yn sicr o ddod a鈥檙 gr诺p at sylw cynulleidfa llawer mwy. Yn ogystal 芒 hyn, mae Gruff, a berfformiodd gynt fel hanner Eitha Tal Ffranco, ac aelodau eraill y band yn mynd i fod yn brysur dros y misoedd i ddod. Maent yn cefnogi Gruff Rhys, o鈥檙 Super Furry Animals, ar daith o amgylch y DU fis Chwefror ac i Japan fis Ebrill.
Mae eu math arbenigol o pop 鈥榬etro鈥- sy鈥檔 ail greu sain syrffio鈥檙 60au yn derbyn llawer o glod a sylw gan adolygwyr, gyda The Independent a The Guardian ac Adam Walton o Radio Wales yn eu plith.
Dywedodd Gruff ei fod yn mwynhau鈥檙 syndod a ddaw efo bob sylw da mae鈥檙 gr诺p yn ei ddenu ac yn eiddgar i weld pa mor bell y gall y gr诺p deithio ar y don o lwyddiant y maent yn ei fwynhau ar hyn o bryd!
鈥淵n ffodus mae鈥檙 band a Phrifysgol yn cadw oriau tra gwahanol felly mae鈥檔 bosib dilyn y ddau beth, ac mae fy nhiwtoriaid wedi bod yn gefnogol ac wedi helpu fi i ffitio pob dim i mewn. Dwi鈥檔 dal i weithio allan sut y byddaf yn dilyn y daith ond dylai fod yn iawn,鈥 meddai Gruff.
鈥淢ae鈥檙 rhan cerdd o fy ngradd wedi bod yn help mawr i mi osod cerddoriaeth y gr诺p yn ei chyd-destun cerddorol ac wedi fy nghynorthwyo ar yr ochr gerddorol hefyd.鈥
Meddai Dr Craig Owen Jones, tiwtor personol Gruff, darlithydd yn Ysgol Cerdd y Brifysgol ac ymchwilydd mewn astudiaethau cerddoriaeth boblogaidd:
鈥淩oeddwn i鈥檔 ffan o waith Gruff fel hanner Eitha Tal Ffranco hyd yn oed cyn iddo gychwyn astudio yn yr Ysgol Gerdd. Mae ei waith ar y Beatles a Punk wedi bod yn arbennig drwyddo draw- ac mae鈥檔 hawdd gweld pam!鈥
鈥淕ruff yw鈥檙 diweddara mewn llif cyson o fyfyrwyr o Ysgol Cerdd y Brifysgol i fwynhau llwyddiant o fewn y diwydiant cerddoriaeth boblogaidd. Does gen i ddim dwywaith y bydd o a鈥檙 Niwl yn mynd yn bell.鈥
Gwrandewch ar Y Niwl ar eu tudalen .
Dyddiad cyhoeddi: 6 Ionawr 2011