Cefnogaeth i fyfyrwyr newydd 黑料不打烊 ar restr fer ar gyfer Gwobr
Arweinydd Cyfoed yn rhoi cymorth i fyfyrwraig newydd yn ystod Wythnos CroesoMae Cynllun Arweinwyr Cyfoed Prifysgol 黑料不打烊, sy鈥檔 cefnogi myfyrwyr newydd ac yn sicrhau eu bod yn ymgynefino鈥檔 hwylus 芒 bywyd Prifysgol, wedi ei osod ar restr fer ar gyfer Gwobr gan Times Higher Education am Gefnogaeth Neilltuol i Fyfyrwyr.
Mae鈥檙 Cynllun Arweinwyr Cyfoed yn paru myfyrwyr newydd gydag 鈥楢rweinwyr Cyfoed鈥, myfyrwyr ail neu drydedd flwyddyn sy鈥檔 gweithredu fel mentoriaid, gan drefnu gweithgareddau cymdeithasol, arwain myfyrwyr o amgylch y Brifysgol a鈥檙 ddinas a rhoi cyngor cyffredinol, o鈥檙 lle gorau i siopa at gynghori lle yn y Brifysgol i fynd am gefnogaeth academaidd a chefnogaeth fugeiliol.
Mae鈥檔 un o鈥檙 cynlluniau mwyaf o鈥檌 fath ym Mhrydain, ac wedi bod yn datblygu ac ehangu ers y peilot cyntaf dros 15 mlynedd yn 么l. Eleni, am y tro cyntaf, bydd gan fyfyrwyr 么l-radd eu cynllun cyfeillio cyfatebol, sef Arweinwyr 脭l-raddedigion.
鈥淢ae鈥檔 myfyrwyr yn gwirfoddoli fel Arweinwyr Cyfoed gan eu bod yn cofio鈥檙 croeso gwych a gawsant yn ystod eu hwythnosau cyntaf yn y Brifysgol, ac yn awyddus i dalu鈥檙 gymwynas yn 么l,鈥 esbonia Kim Davies, sydd yn rheoli鈥檙 rhaglen ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
鈥淢ae鈥檙 Arweinwyr Cyfoed yn derbyn hyfforddiant trylwyr o flaen llaw, fel eu bod yn gweithredu fel 鈥榩wyntiau cyfeirio鈥 effeithiol at wasanaethau a chefnogaeth sydd ar gael o fewn y Brifysgol,鈥 ychwanega.
Arweinydd Cyfoed yn rhoi cymorth i fyfyrwraig newydd鈥淵n 么l ein profiad, rydym yn gwybod mai po gyflyma y mae鈥檙 myfyrwyr newydd yn integreiddio鈥檔 gymdeithasol, cyflymaf y maent yn integreiddio o safbwynt academaidd hefyd. Mae鈥檙 Arweinwyr Cyfoed yn cyfrannu gan greu cyfleoedd i鈥檙 myfyrwyr newydd gymdeithasu, gan gymryd cyfrifoldeb dros grwpiau unigol o fyfyrwyr, a thrwy drefnu gweithgareddau o fewn eu Hysgolion academaidd. Mae hyn o fudd i鈥檙 myfyrwyr ac i鈥檙 Brifysgol. Mae鈥檙 Arweinwyr Cyfoed hefyd yn elwa, gan ennill sgiliau cyflogaeth gwerthfawr yn y broses, ychwanega鈥檙 Athro Colin Baker, Dirprwy Is-Ganghellor sydd 芒 chyfrifoldeb dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
鈥淢ae cyfraniad yr Arweinwyr Cyfoed at fywyd cymdeithasol ac academaidd y Brifysgol hefyd yn amhrisiadwy ac yn ein gwneud yn Brifysgol sy鈥檔 gofalu鈥檔 wirioneddol,鈥 ychwanegodd.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Medi 2010