Cenhadaeth Cynghori i India i Ganolfan Ymchwil ar Amgylchedd Cymru
Mae Dr Shaun Russell, Cyfarwyddwr , sydd wedi鈥檌 lleoli ym Mhrifysgol 黑料不打烊, wedi dychwelyd yn ddiweddar (Ebrill 2012) o genhadaeth gynghori wythnos o hyd ar faterion amgylcheddol i Lywodraeth Talaith Maharashtra yn Yr India.
Gyda phoblogaeth o 100 miliwn, Maharashtra yw un o鈥檙 taleithiau sy'n datblygu gyflymaf yn Yr India, a鈥檌 phrifddinas Mumbai (poblogaeth 20,000,000) yw prif ganolfan ariannol y wlad. Mae鈥檙 datblygu cyflym wedi arwain at amrywiaeth o broblemau amgylcheddol dwys yn Maharashtra, ac mae Llywodraeth y Dalaith felly wedi bod yn chwilio am ffyrdd "glanach a gwyrddach" o reoli datblygu at y dyfodol.
Mae Canolfan Ymchwil yr Amgylchedd Cymru yn uned a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mae鈥檔 rhan o Goleg Gwyddorau Naturiol Prifysgol 黑料不打烊. Bu WERH yn cydlynu mewnbwn Cymreig yn ddiweddar i Asesiad Ecosystem Genedlaethol y DU (NEA), yr arolwg cenedlaethol mwyaf cyflawn a gynhaliwyd erioed o'r gwerthoedd a'r buddiannau y mae鈥檙 gymdeithas ddynol yn eu derbyn o fyd natur a'r amgylchedd. Mae canlyniadau'r NEA wedi cyfrannu at "Bapur Gwyn" Llywodraeth y DU ar yr Amgylchedd yn Lloegr yn ddiweddar, ac mae hefyd wedi cyfrannu at bolisi newydd "Byw Cymru" Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at ymgorffori dulliau ecosystem cynaliadwy a chynhwysol mewn cynllunio a datblygu yn y dyfodol yng Nghymru.
Mae llawer o raddedigion Prifysgol 黑料不打烊 yn y sectorau amgylchedd a choedwigaeth yn Yr India, gan gynnwys Dr Shivaji Chavan, Cyfarwyddwr sefydliad ymgynghorol blaenllaw ar faterion amgylcheddol ym Mumbai. Hwylusodd Dr Chavan wahoddiad gan Lywodraeth Maharashtra i d卯m Dr Russell ymweld ag India i adrodd ar ganlyniadau鈥檙 Asesiad Ecosystem Genedlaethol yn y DU. Roedd y t卯m yn cynnwys Dr Tim Pagella, a gwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ar fapio gwasanaethau ecosystemau ar gyfrifiadur.
Bu鈥檙 t卯m yn ymweld ag ardaloedd oedd yn dioddef pwysau amgylcheddol mewn trefi, coetiroedd a chynefinoedd mangrof o gwmpas Mumbai, a buont wedyn yn cynnal gweithdy ar asesiad ecosystem i 50 o gynrychiolwyr o adrannau'r llywodraeth, y sector preifat a mudiadau sifil. Cynhaliodd y t卯m gyfarfodydd gyda Phenaethiaid yr Amgylchedd, Coedwigaeth ac Adrannau Iechyd y Cyhoedd ac yna cynhaliwyd cyfarfod briffio i Brif Weinidog Talaith Maharashtra - Prithviraj Chavan. Cytunodd Mr Chavan mewn egwyddor i gynnal asesiad ecosystem ar gyfer Talaith Maharashtra yn ei chyfanrwydd, a gofynnodd am fewnbwn ymgynghorol pellach gan aelodau o d卯m Asesiad Ecosystem Cenedlaethol Cymru.
Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi sicrhau Ysgoloriaeth Ewropeaidd "Erasmus Mundus" i Dr Shivaji Chavan ddod i Brifysgol 黑料不打烊 am dri mis yn ddiweddarach yn 2012, i wneud cynlluniau manwl ar gyfer y fenter ar y cyd rhwng Yr India a Chymru. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 yn elwa鈥檔 uniongyrchol o brofiad sylweddol Dr Chavan mewn rheoli amgylcheddol mewn gwledydd sy'n datblygu, gan y bydd yn cyfrannu at raglenni gradd Meistr y Brifysgol mewn "Coedwigaeth Gynaliadwy Drofannol" a "Coedwigoedd Cynaliadwy a Rheoli Natur".
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2012