CERQual: Dull newydd o gefnogi defnyddio tystiolaeth ansoddol wrth wneud penderfyniadau
Mae papur newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn PLOS Medicine yn disgrifio dull gweithredu arloesol ac eglur i asesu faint o ffydd y dylid ei roi mewn darganfyddiadau o ddadansoddiadau tystiolaeth ansoddol.
Bwriad y dull gweithredu newydd, a elwir yn CERQual (鈥楥onfidence in the Evidence from Reviews of Qualitative research鈥), yw helpu rhai sy鈥檔 gwneud penderfyniadau i ddefnyddio tystiolaeth ansoddol ar gyfer penderfyniadau a pholisiau鈥檔 ymwneud 芒 gofal iechyd a lles cymdeithasol.
Pam mae CERQual yn bwysig?
Gall darganfyddiadau o ddadansoddiadau ymchwil ansoddol helpu i roi tystiolaeth ynghylch ymarferoldeb a phriodoldeb ymyriadau. Gallant roi gwell golwg hefyd ar ffactorau sy鈥檔 dylanwadu ar weithredu ymyriadau. Defnyddir dadansoddiadau o鈥檙 fath yn gynyddol wrth wneud penderfyniadau鈥檔 gysylltiedig ag iechyd a pholis茂au cymdeithasol. Fodd bynnag, mae鈥檙 papur yn dangos nad oedd llawer o sylw wedi ei roi tan yn ddiweddar i asesu faint o ffydd y dylid ei roi mewn darganfyddiadau鈥檔 deillio o ddadansoddiadau tystiolaeth ansoddol.
Meddai鈥檙 Athro Jane Noyes o Ysgol Gwyddorau Cymdeithas Prifysgol 黑料不打烊 a chyd-ddatblygwr y dull CERQual o weithredu, 鈥済all defnyddio CERQual helpu awduron dadansoddiadau tystiolaeth ansoddol i ystyried, dadansoddi ac adrodd ar ddarganfyddiadau adolygiad mewn ffordd fwy defnyddiol. Gall CERQual helpu rhai sy鈥檔 gwneud penderfyniadau, a defnyddwyr eraill, i ddeall faint o ffydd i鈥檞 roi mewn darganfyddiadau o ddadansoddiadau tystiolaeth ansoddol. Bydd hyn yn eu cynorthwyo i farnu faint o bwyslais i鈥檞 roi ar ddarganfyddiadau pan maent yn gwneud eu penderfyniadau.鈥
Mae鈥檙 dull gweithredu CERQual wedi cael ei ddefnyddio eisoes mewn dwy ddogfen ganllaw a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO). Meddai Metin G眉lmezoglu, o Adran Iechyd ac Ymchwil i Atgenhedlu yn WHO, a oedd yn gyfrifol am un o鈥檙 canllawiau hyn: 鈥淢ae鈥檙 dull CERQual o weithredu yn werthfawr iawn i鈥檔 helpu i ddefnyddio tystiolaeth ansoddol yn briodol wrth ddatblygu鈥檙 argymhellion. Rydym yn rhagweld y defnyddir y dull hwn yn helaeth yn WHO yn y dyfodol, ac mewn sefydliadau eraill sy鈥檔 ymwneud 芒 datblygu canllawiau.鈥
Cyfleoedd newydd
Mae CERQual yn cael ei ddatblygu gan is-gr诺p o GRADE (Grading of Recommendations Assessment, Development, and Evaluation) (www.gradeworkinggroup.org). Yn y gweithgor hwn gwelir cydweithio anffurfiol ymysg rhai sydd 芒 diddordeb a budd mewn asesu faint o ffydd y dylid ei roi mewn tystiolaeth yn deillio o ddadansoddi tystiolaeth ansoddol. Rydym yn annog rhai sy鈥檔 awyddus i weithio yn y maes hwn i ymuno 芒鈥檔 gr诺p drwy ein gwefan () a chyfrannu at ddatblygu鈥檙 dull gweithredu CERQual.鈥
Mae鈥檙 papur CERQual yn awr ar gael am ddim ar wefan PLOS Medicine yn :
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2015