Cipolwg ar y gorffennol i dwristiaid o Ewrop
Dyfrliw o Bont Pont Rhiwaedog ym mhentref bach Rhos y Gwaliau ger Y Bala, a baentwyd gan Mary Ann Malkin, 1846.: Hawlfraint y Goron RCAHWM 2017Bydd cofnodion hanesyddol gan ymwelwyr o Ewrop i Gymru鈥檙 gorffennol ar gael i ymwelwyr Ewropeaidd y dyfodol, drwy wefan newydd sydd i鈥檞 chwblhau'r flwyddyn nesaf.
Bydd arian dilynol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau (AHRC) yn galluogi i ymchwilwyr sy鈥檔 gweithio ar broject llwyddiannus 鈥樷 rannu peth o鈥檙 ysgrifau taith hanesyddol y maent wedi eu darganfod gyda thwristiaid i Gymru鈥檙 oes hon. Gwneir y gwaith dan arweinyddiaeth Prifysgol 黑料不打烊, gyda Phrifysgol Abertawe a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, ac mewn cydweithrediad 芒 Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Visit Wales. Ar 么l cwblhau鈥檙 gwaith, bydd ymwelwyr i Gymru yn medru dilyn 么l traed ymwelwyr o鈥檙 gorffennol gan ddilyn teithiau awgrymedig, gan ddarllen eu geiriau a hefyd gweld darluniau hanesyddol o gasgliad Y Comisiwn Brenhinol a chasgliadau eraill.
Bu i鈥檙 project gwreiddiol gan yr arbenigwyr ieithoedd modern ddarganfod dros 400 cofnod o ymweliadau 芒 Chymru gan deithwyr o Ewrop rhwng 1750 a 2010, pedair gwaith yn fwy na鈥檙 disgwyl.
鈥淩ydym wedi darganfod cofnodion nad astudiwyd o鈥檙 blaen, yn disgrifio sut y mae eraill wedi edrych ar Gymru,鈥 meddai鈥檙 Athro Carol Tully o鈥檙 Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern, sy鈥檔 arwain y project:
鈥淢ae rhai o鈥檙 ysgrifau mewn dyddiaduron a llythyrau, ac mae鈥檔 debyg na fwriadwyd cyhoeddi鈥檙 rhan fwyaf. Mae ystod y pynciau sy鈥檔 cael eu trafod yn dangos diddordeb parhaus yng Nghymru. Nid twristiaid yn yr ystyr modern oedd pawb a fu鈥檔 teithio. Roedd ffoaduriaid yn eu plith ynghyd 芒 phobol ar fusnes, ond maent i gyd yn rhoi golwg ar Gymru gan bobol o wledydd Ewrop,鈥 meddai.
Un o'r Teithiau sy'n cael eu cynllunio yw Taith Telford. Dyma lun o Draphont Pontcysyllte Telford a ddefnyddiwyd mewn sawl llyfr.: Hawlfraint y GoronGyda thwristiaeth o Brydain ac Ewrop yn cyfrannu 拢5.1 biliwn y flwyddyn at economi Cymru, ffigwr y mae disgwyl iddo dyfu, bydd y wefan yn adnodd gwerthfawr i Visit Wales wrth hybu tirwedd, hanes a diwylliant Cymru.
Y dyddiau hyn mae鈥檙 rhan fwyaf o bobol yn chwilio am wybodaeth am eu cyrchfan teithio ar-lein, a bydd yr adnodd digidol newydd hwn, a fydd ar gael mewn dewis o ieithoedd, ac ar gael drwy wefan Visit Wales, yn darparu teithlen gyda thema, gan ddefnyddio鈥檙 testun hanesyddol. Mae mwyafrif y testunau mewn Ffrangeg neu Almaeneg, ac felly鈥檔 naturiol yn apelio at y marchnadoedd poblogaidd hyn, er bod cofnodion eraill mewn ieithoedd lleiafrifol fel Llydaweg, a chan deithwyr o Wlad P诺yl, Hwngari, Sgandinafia a鈥檙 Weriniaeth Tsiec.
Yn 么l Rita Singer, swyddog ymchwil y project:
鈥淢ae un o鈥檙 teithiau awgrymiadol yr ydym yn ei hadeiladu yn dilyn 么l troed Thomas Telford. Ar 么l eu cwblhau bron i 200 mlynedd yn 么l, roedd ymwelwyr o鈥檙 cyfandir yn ystyried traphont dd诺r Pontcysyllte a鈥檙 ddwy bont grog ar draws afonydd Conwy a Menai i fod yn rhyfeddodau technoleg a phensaern茂aeth fodern. Mae鈥檔 ymddangos o鈥檙 cofnodion yr ydym wedi eu darganfod, bod y pontydd a鈥檙 draphont ymysg yr ugain safle mwyaf poblogaidd i ymweld 芒 hwy drwy Gymru. Bydd 鈥楲lwybr Telford鈥 drwy ogledd Cymru yn cynnig i鈥檙 ymwelydd cyfoes, ffenestr i orffennol pensaern茂ol cyffrous, oherwydd bydd y wefan yn cynnwys disgrifiadau o hanes ynghyd 芒 delweddau ac ail-gread rhithwir. Dyma un enghraifft yn unig o鈥檙 hyn yr ydym yn ei gynllunio.鈥
Ychwanegodd yr Athro Tully:
鈥淢ae鈥檙 deunydd yn adlewyrchu cyfnod o newid mawr yn nhirwedd, diwylliant a threftadaeth Cymru, a bydd ymwelwyr cyfoes yn cael y cyfle i 鈥榖rofi鈥欌檙 newidiadau hynny drwy lygaid eu rhagflaenwyr teithiol, gan ddadorchuddio golwg unigryw o Gymru i genhedlaeth newydd o ymwelwyr o Ewrop, ond hefyd, a fydd yn rhoi gogwydd newydd ar y ffordd y mae Cymru鈥檔 cael ei hystyried dros amser gan ymwelwyr o Brydain a thu hwnt.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mehefin 2017