Codi tua’r entrychion! Catrin yn llwyddo ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop
Mae athletwraig leol sy’n ddeiliad bwrsariaeth chwaraeon gan Brifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ wedi dychwelyd o’r European Youth Weightlifting Championships yng Ngwlad Pwyl â medal arian yn y ‘snatch lift’ a medal efydd am ei holl ymdrechion yn y categori 48kg.
Catrin Jones, sy’n ddisgybl yn Ysgol Friars, ºÚÁϲ»´òìÈ, yw deiliad Bwrsariaeth Leol Canolfan Brailsford ar gyfer 2016/17. Mae’r fwrsariaeth yn galluogi athletwr neu athletwraig lleol i ddefnyddio’r cyfleusterau yng Nghanolfan Brailsford, canolfan chwaraeon a ffitrwydd y Brifysgol, fel rhan o’u rhaglen hyfforddi.
 hithau mewn cystadleuaeth galed yn erbyn cystadleuwyr o wledydd megis Twrci, Azerbaijan a Bwlgaria – gwledydd adnabyddus ym maes codi pwysau – cafwyd perfformiad clodwiw gan Catrin yn nhref Nowy Tomyśyl yng Ngwlad Pwyl yn ystod 9 – 17 Medi. Enillodd ei medal arian wedi iddi godi 65kg yn y dull ‘snatch’. Yn dilyn perfformiad da arall yn y dull ‘Clean & Jerk’, enillodd Catrin le ar y podiwm a derbyn medal efydd yng nghategori Merched 48kg.
Mae Catrin wedi hen arfer â sefyll ar y podiwm fodd bynnag. Ym mis Medi y llynedd llwyddodd i gipio’r fedal aur yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Samoa a hi bellach yw pencampwraig bresennol Cymru, pencampwraig Ieuenctid a Hŷn y DU a phencampwraig a deilydd record Dan-18 a Dan-20 y DU. Cystadleuaeth nesaf Catrin yw Gemau Ieuenctid y Gymanwlad yn Malaysia ac mae’n anelu at gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia yn 2018.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â rhaglen Bwrsariaeth Leol Canolfan Brailsford, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch sut i ymgeisio, ewch i
Dyddiad cyhoeddi: 22 Medi 2016