ºÚÁϲ»´òìÈ

Sgipiwch i’r prif gynnwys
Home

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
  • English
Fy ngwlad:

Main Menu

    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ymgeiswyr
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Dyddiau Agored

    Digwyddiad Ôl-raddedig

    Gwybodaeth i Ymgeiswyr

    Taith Rhithiwr

    Archebu Prosbectws Poced

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • ºÚÁϲ»´òìÈ a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Academi Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

    • Dyddiau Agored 2025/26
      • Diwrnod Agored Bach - Ionawr 2026
      • Prif Ddyddiau Agored y Brifysgol
      • Newid / Canslo Ymweliad
    • Paratoi ar gyfer Diwrnod Agored
      • Rhaglen y Diwrnod Agored Bach
      • Sut i Gyrraedd y Diwrnod Agored
      • Parcio Diwrnod Agored
      • Opsiynau Llety
      • Astudio drwy'r Gymraeg
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Cwestiynau i'w Gofyn
      • Meysydd Pwnc Israddedig
      • Bwyd a Diod
      • Cwestiynau Cyffredin
      • Darganfod ºÚÁϲ»´òìÈ a'r Ardal
    • Digwyddiad Ôl-raddedig
      • Mwy o Wybodaeth

    Cofrestru ar Ddiwrnod Agored Bach - Ionawr 2026

    Taith Rithwir

    Map o'r campws

    • Israddedig
      • Cyrsiau A–Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Wedi Gwneud Cais
      • Gwybodaeth i Ymgeiswyr
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Ehangu Mynediad
      • Astudio Drwy'r Gymraeg
      • Astudio Rhan-Amser
      • Prentisiaethau Gradd
      • Astudio Dramor
      • Cyfleoedd Profiad Gwaith
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Prosbectws Poced
      • Calendr Academaidd
    • Ôl-radd Trwy Ddysgu
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Ffioedd a Chyllid
      • Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
      • Addysg Weithredol
      • Cychwyn Mis Ionawr
      • Astudio Rhan-Amser
      • Cyrsiau Byr a DPP
      • Cyrsiau Byr a DPP A-Y
    • Ymchwil Ôl-radd
      • Cyrsiau A-Y
      • Meysydd Pwnc
      • Sut i Wneud Cais
      • Cyllid
      • Yr Ysgol Ddoethurol

    Dod o hyd i Gwrs

    Dyddiau Agored

    Digwyddiad Ôl-raddedig

    Gwybodaeth i Ymgeiswyr

    Taith Rhithiwr

    Archebu Prosbectws Poced

    • Bywyd Myfyrwyr
      • Hafan Bywyd Myfyrwyr
      • ºÚÁϲ»´òìÈ a’r Ardal
      • Bywyd Cymdeithasol ac Adloniant
      • Llety i Fyfyrwyr
      • Clybiau a Chymdeithasau
      • Chwaraeon
      • Taith Rhithiwr
      • Fideos a Flogs
    • Eich Profiad ym Mangor
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Sgiliau a Chyflogadwyedd
      • Astudio neu Gweithio Dramor
      • Ffioedd a Chyllid
      • Llysgenhadon Myfyrwyr

    Proffiliau Myfyrwyr

    Gwyliwch ein Fideos

    Taith Rhithiwr

    • Ymchwil
      • Hafan Ymchwil
      • Ein Hymchwil
      • Ymchwil o fewn ein Ysgolion Academaidd
      • Sefydliadau a Chanolfannau Ymchwil
      • Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS)
      • Ynni
      • Newyddion Ymchwil
      • REF 2021
    • Cyfleoedd Ymchwil Ôl-raddedig
      • Ymchwil Ôl-raddedig
      • Academi Ddoethurol
    • Digwyddiadau a Chyfleoedd Hyfforddi
      • Datblygu Ymchwilwyr
    • Y Brifysgol
      • Amdanom Ni
      • Ein Cenhadaeth
      • Strategaeth 2030
      • Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol
      • Ein Lleoliad
      • Ysgolion Academaidd a Cholegau
      • Gwasanaethau a Chyfleusterau
      • Swyddfa'r Is-Ganghellor
      • Gweithio gyda Busnes
      • Gweithio gyda'r Gymuned
      • Cynaliadwyedd
      • Iechyd a Lles
      • Cysylltwch â Ni
    • Gweithio i Ni
    • Rheolaeth a Llywodraeth y Brifysgol
      • Polisïau a Gweithdrefnau’r Brifysgol
      • Datganiad ar Gaethwasiaeth a Masnachu Pobl
      • Rheolaeth a Llywodraethiant
    • Y Brifysgol a'r Gymuned
      • Pontio
      • Cyfleusterau Chwaraeon
      • Cyfleusterau Cynadleddau
      • Llefydd i Fwyta ac Yfed
      • Digwyddiadau Cyhoeddus
      • Ehangu Mynediad
      • Gwasanaethau i Ysgolion
    • Gwasanaethau Busnes
      • Hafan Gwasanaethau Busnes
    • Hwb Cydweithredu
      • Hwb Cydweithredu
    • Cynadleddau a Chiniawa Busnes
      • Cyfleusterau a Rhwydweithiau Busnes
      • Ciniawa Busnes
    • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
      • Eiddo Deallusol a Masnacheiddio
    • Newyddion
      • Newyddion Cyfredol
      • Newyddion Ymchwil
      • Newyddion Myfyrwyr
    • Digwyddiadau
      • Digwyddiadau
    • Cyhoeddiadau
      • Cyhoeddiadau Fflag

    Dathlu 140 mlynedd

    Darlithoedd Cyhoeddus

    • Dyddiau Agored 2025/26
      • Diwrnod Agored Bach - Ionawr 2026
      • Prif Ddyddiau Agored y Brifysgol
      • Newid / Canslo Ymweliad
    • Paratoi ar gyfer Diwrnod Agored
      • Rhaglen y Diwrnod Agored Bach
      • Sut i Gyrraedd y Diwrnod Agored
      • Parcio Diwrnod Agored
      • Opsiynau Llety
      • Astudio drwy'r Gymraeg
      • Cefnogaeth i Fyfyrwyr
      • Cwestiynau i'w Gofyn
      • Meysydd Pwnc Israddedig
      • Bwyd a Diod
      • Cwestiynau Cyffredin
      • Darganfod ºÚÁϲ»´òìÈ a'r Ardal
    • Digwyddiad Ôl-raddedig
      • Mwy o Wybodaeth

    Cofrestru ar Ddiwrnod Agored Bach - Ionawr 2026

    Taith Rithwir

    Map o'r campws

Gwybodaeth ar gyfer:

  • Alumni
  • Ymgeiswyr
  • Rhieni
Fy ngwlad:

Search

Close

Breadcrumb

  • English

Rhannwch y dudalen hon

‘Coroni’r Wythnos’

Daeth llwyddiant ysgubol i ran yr opera Wythnos yng Nghymru Fydd (Gareth Glyn a Mererid Hopwood) a chynhyrchiad arbennig ohoni yn seremoni a gynhaliwyd yng Nghasnewydd  yn ddiweddar ( 27.1.18). Yn dilyn taith lwyddiannus led led y wlad ym mis Tachwedd y llynedd a chydnabyddiaeth ragorol drwy gyfrwng theatrau llawn ac adolygiadau clodwiw yn y wasg, dyfarnwyd gwobr ‘Y Cynhyrchiad Gorau yn yr iaith Gymraeg’ (2018) i’r cwmni fu mor ddyfal a chydwybodol yn sicrhau fod y fenter arloesol hon yn cyrraedd cynulleidfaoedd y genedl.

Ymgais i ennyn cydweithio rhwng pedwar sefydliad cerddorol yng Ngogledd Cymru fu’n sail ac yn gychwyn i’r cynllun opera hwn. Ei nod oedd dwyn arbenigedd Ysgol Cerddoriaeth (Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ), OPRA Cymru, a Chanolfan Gelfyddydol Pontio (Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ) ynghyd er mwyn llwyfanu cynhyrchiad eiconig a fyddai wedi ei wreiddio yng Ngwynedd ond a fyddai yn denu sylw ac apêl cenedlaethol. Gyda chymorth hael Cyngor Celfyddydau Cymru, comisiynwyd y cyfansoddwr Gareth Glyn, sy’n Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, i lunio’r gerddoriaeth a’r Prifardd Mererid Hopwood i ddarparu’r libreto sy’n seiliedig ar nofel wyddonias Islwyn Ffowc Elis, Wythnos yng Nghymru Fydd (Llandysul: Gwasg Gomer).

Fel cyn-fyfyriwr o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, ºÚÁϲ»´òìÈ amserwyd y daith hon i ddathlu trigain mlynedd ers cyhoeddi gwaith Islwyn Ffowc Elis ac i ddwyn neges hynod amserol y nofel hon unwaith yn rhagor i sylw ei gyd-genedl. Cyfrannodd yr opera yn ddi-os, i’r adfywiad ym myd y cyfrwng sydd ar droed yng Nghymru heddiw a’r gobaith yw y bydd cyfleoedd eto i’r to ifanc o berfformwyr (yn gantorion ac offerynwyr) fu’n rhan o’r fenter i ennill eu plwyf ar lwyfannau proffesiynol ein gwlad.  

OPRA Cymru yw’r unig gwmni opera Cymraeg ei iaith yn y byd ac wedi llwyddiant y gorffennol a pherfformiadau o weithiau llwyfan Bizet, Rossini, Verdi a Donizetti bu’r perfformiadau o’r Wythnos, ynghyd â gwaith cyfansoddwr o Gymru yn 2017 yn goron ar y cyfan. Patrick Young (cyn-Gyfarwyddwr, Cwmni Opera Cenedlaethol Lloegr), dysgwr Cymraeg afieithus, sydd bellach yn byw yn Llan Ffestiniog, oedd sylfaenydd OPRA Cymru a hynny yn 2008. Ef yw’r un fu’n cyfarwyddo’r gwaith a sicrhau bod yr holl elfennau – y rhai cerddorol, y llenyddol, y llwyfanu a’r effeithiau theatrig – yn plethu’n un cyfanwaith effeithiol.

Y gerddorfa a fu’n cyfeilio i’r perfformiadau operatig oedd Ensemble Cymru sef ensemble sy’n arbenigo ar berfformio a hyrwyddo cerddoriaeth siambr Gymreig yng Nghymru a’r tu hwnt.

Dywed Patrick Young: ‘Roedd llwyfanu Wythnos yng Nghymru Fydd yn garreg filltir arwyddocaol yn hanes OPRA Cymru, a thestun llawenydd i ni fel cwmni oedd cyflawni’r fath orchest a roes fod i Wobr Theatr Cymru eleni. Rwy’n rhagweld bod tri datblygiad cyffrous ar y gorwel: twf yn nifer y cynulleidfaoedd fydd yn mynychu perfformiadau operatig yng Nghymru; twf yn nifer yr operau gaiff eu cyfansoddi; ac, yn sail i hyn oll, y ddealltwriaeth gynyddol fod opera a’r iaith Gymraeg yn priodi’n gwbl naturiol ac yn eneidiau hoff gytun.’  

Dywed y cyfansoddwr Gareth Glyn: ‘Bu’n uchelgais gen i erioed i gyfansoddi opera Gymraeg, felly gwireddwyd breuddwyd pan ddaeth y cyfle i gydweithio gyda chynifer o sefydliadau ac unigolion ymroddedig a thalentog.  Mae’r llwyddiant hwn yn goron ar y cyfan, ac yn arwydd calonogol a chadarnhaol tu hwnt at y dyfodol.’

Dywed y libretydd Mererid Hopwood: ‘Diolch am y cyfle i ail-ymweld â’r nofel a cheisio cyflwyno ei neges obeithiol o’r newydd. 60 mlynedd wedi ei gyhoeddi gyntaf, mae gwaith Islwyn Ffowc Elis yn parhau’n gwbl berthnasol i ni, ac nid yr iaith Gymraeg yw’r unig beth sydd yn y fantol.’

Dywed Peryn Clement-Evans (Ensemble Cymru): ‘Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth i ymrwymiad digyfaddawd cerddorion Ensemble Cymru ac OPRA Cymru i berfformiadau o ansawdd. Rydym yn edrych ymlaen i barhau’r berthynas gydag OPRA Cymru er mwyn creu mwy o brofiadau ysbrydoledig i gynulleidfoedd yng Nghymru yn ogystal â chreu gwaith o safon i berfformwyr Cymreig’

Ffrwyth cydweithio parod fu’r opera hon a’r gobaith yw y bydd Wythnos yng Nghymru Fydd i’w gweld a’i chlywed eto ar un o brif lwyfannau Cymru ac y bydd neges ysgytwol yr opera, ynghyd â’i hartistiaid addawol, yn denu sylw’r cyhoedd.  

Dyddiad cyhoeddi: 2 Chwefror 2018

Hafan

  • Newyddion
    • Newyddion Cyfredol
    • Archif Newyddion
    • Digwyddiadau
Hafan

Dilynwch Ni

Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ

ºÚÁϲ»´òìÈ, Gwynedd, LL57 2DG, UK

+44 (0)1248 351151

Cysylltwch â Ni

Ymweld â’r Brifysgol

Mapiau a Chyfarwyddiadau Teithio

Polisi

  • Cydymffurfiaeth Gyfreithiol
  • Datganiad Deddf Caethwasiaeth Modern 2015
  • Datganiad Hygyrchedd Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Preifatrwydd a Chwcis
Map

Mae Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn Elusen Gofrestredig: Rhif 1141565

© 2020 Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ