Creu talent ymchwil newydd
Chwilio am ymchwilwyr addawol ar gyfer Crwsibl Cymru
Mae'r chwilio wedi dechrau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr dawnus sy鈥檔 sefydlu eu gyrfaoedd yng Nghymru.
Mae Crwsibl Cymru, sef cynllun datblygu i arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghymru, yn recriwtio ar gyfer rhaglen meithrin gallu i鈥檞 chynnal yr haf hwn.
Mae Crwsibl Cymru鈥檔 dewis 30 o ymchwilwyr mwyaf addawol y genedl sydd ar ddechrau neu ar ganol eu gyrfa, ar gyfer cyfres o weithdai dwys. Mae'r gweithdai preswyl, neu "labordai", yn anelu at adeiladu sgiliau meddwl arloesol a helpu ymchwilwyr i feddwl sut y gellir defnyddio eu gwybodaeth yn y byd cyhoeddus.
Bydd y tri labordy preswyl deuddydd yn cynnwys siaradwyr gwadd, seminarau a sesiynau sgiliau. Bydd yr ymchwilwyr yn dysgu ynghylch:
- datblygu rhwydwaith o gyfoedion ymchwil ar draws disgyblaethau a meithrin cysylltiadau 芒 Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r cyfryngau Cymreig;
- dod o hyd i ffyrdd newydd o feddwl a gweithio;
- gwella eu heffeithiolrwydd o fewn a thu hwnt i鈥檞 sefydliadau;
- datblygu sgiliau ymgysylltu 芒'r cyhoedd a rhyngweithio 芒'r cyfryngau a llunwyr polisi, gan ddatblygu effaith bosibl eu hymchwil.
Mae Crwsibl Cymru yn ei ail flwyddyn erbyn hyn, ac mae鈥檔 cael ei redeg gan y pum Prifysgol yng Nghymru sydd yng Ngr诺p Dydd G诺yl Dewi, sy'n cynnwys 黑料不打烊. Mae llawer o gyfranogwyr y llynedd bellach yn datblygu prosiectau ymchwil rhyngddisgyblaethol o ganlyniad i gymryd rhan yn y rhaglen.
Eglurodd Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil a Menter ym Mhrifysgol 黑料不打烊, Yr Athro David Shepherd, ei frwdfrydedd ar gyfer y rhaglen Crwsibl Cymru, gan ddweud "Rwyf wedi credu erioed bod cydweithredu rhwng ymchwilwyr ac entrepreneuriaid o bob disgyblaeth yn hanfodol er mwyn arloesi llwyddiannus. Mae Crwsibl Cymru鈥檔 enghraifft wych o hyn ar waith ac mae canlyniadau rhaglen gychwynnol y llynedd yn dangos bod yr agwedd gyffrous tuag at ymchwil a datblygu yng Nghymru yn creu arweinwyr ac arloeswyr a fydd yn helpu i sicrhau dyfodol economi wybodaeth Cymru."
Dywedodd Cadeirydd Gr诺p Llywio Crwsibl Cymru, yr Athro Peter Halligan: 鈥淢ae Crwsibl Cymru er lles ymchwilwyr, eu cyflogwyr a'r genedl gyfan. Rydym yn chwilio am bobl dalentog sydd 芒 diddordeb mewn datblygu cydweithrediadau newydd ac sydd ag ymrwymiad i Gymru. Y llynedd, datblygodd Crwsibl Cymru rai partneriaethau addawol iawn ac mae rhai o'r ymchwilwyr yn dweud bod eu cyfranogiad wedi鈥檜 helpu i lwyddo cael grantiau cyllido yn ddiweddar. Rydym yn disgwyl i鈥檙 Crwsibl eleni fod yr un mor gynhyrchiol.鈥
Mae鈥檔 rhaid i ymgeiswyr ar gyfer Crwsibl Cymru fod ag o leiaf dair blynedd o brofiad ymchwil 么l-ddoethurol neu gyfwerth. Gallant fod yn gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth, gan gynnwys gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth, y celfyddydau, dylunio, a gwyddor gymdeithasol a gwleidyddol. Mae鈥檔 rhaid i gyfranogwyr fod yn gweithio yng Nghymru, naill ai yn un o brifysgolion Dydd G诺yl Dewi (Aberystwyth, 黑料不打烊, Caerdydd, Morgannwg neu Abertawe), neu mewn ymchwil a datblygu mewn busnes, diwydiant neu鈥檙 sector cyhoeddus.
Mae rhagor o wybodaeth am wneud cais ar gael yn , wrth gysylltu 芒 Penny Dowdney, Rheolwr Datblygu Sgiliau Ymchwil (KESS) T: 01248 382266, neu trwy anfon ebost i: p.j.dowdney@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 8 Chwefror 2012