Croesawu 鈥淏renhines鈥 y Wladfa
O'r chwith: Iona Rhys Cooke, Lynette Hunter - Prifysgol 黑料不打烊 gyda Luned Gonzalez a Nadine Laporte, gorwyresau Michael D Jones a Lewis Jones.Derbyniodd Prifysgol 黑料不打烊 ymwelydd arbennig iawn yn ddiweddar, sef Luned Gonzales, disgynnydd uniongyrchol o'r Cymry ag ymsefydlodd ym Mhatagonia 150 mlynedd yn 么l.
Mae Luned yn un o Gymry Patagonia ac ar hyn o bryd ar daith yng Nghymru. Mae ganddi raglen brysur wedi鈥檌 threfnu ar ei chyfer ond llwyddodd i ddod i鈥檙 Brifysgol yr wythnos diwethaf i weld arddangosfa 鈥淵 Cymry ym Mhatagonia鈥.
Mae Luned yn perthyn i linach bwysig yn hanes y Wladfa. Mae鈥檔 wyres i Llwyd ap Iwan a Myfanwy Ruffydd ac yn or-wyres i Michael D Jones a Lewis Jones, un yn sefydlydd y fenter a鈥檙 llall yn arweinydd cyntaf y Wladfa.
Rhoddodd Luned Gonzales s锚l ei bendith ar yr arddangosfa ac mae hi a Iona Rhys Cooke (sydd hefyd yn or-wyres i Michael D Jones) wedi cyflwyno rhodd i Lynette Hunter o鈥檙 Archifdy, sef plac gwydr ac arno lun o Michael D Jones ar ran y teulu.
Mae鈥檙 arddangosfa ar agor i bawb i鈥檞 weld yng Nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol, ac mae鈥檔 parhau hyd ddiwedd y flwyddyn.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2015