Croesawu鈥檙 Ffagl Olympaidd i Brifysgol 黑料不打烊
Bydd pobl leol yn cael y cyfle i gael tynnu eu llun gyda鈥檙 Ffagl Olympaidd fel rhan o baratoadau 黑料不打烊 i groesawu鈥檙 Fflam Olympaidd i鈥檙 ddinas gwanwyn nesaf.
Ymysg y rhai a fydd yn ymweld 芒 Thaith Coca-Cola y Ffagl Olympaidd bydd dros fil o ddisgyblion ysgolion lleol a fydd yn ymweld 芒 Phrifysgol 黑料不打烊 fory (20.10.11). Mae hyn yn dilyn llwyddiant Undeb Myfyrwyr y Brifysgol yn cael ei ddewis fel un o ddim ond 20 o brifysgolion yn y DU sy鈥檔 croesawu.
O ganlyniad bydd Coca-Cola, Partner Cyflwyno Gemau Olympaidd Llundain 2012, ar y cyd ag Undeb Myfyrwyr 黑料不打烊, yn gwahodd myfyrwyr ac aelodau o鈥檙 gymuned leol i ymweld 芒 Bws Taith y Ffagl Olympaidd, a fydd ar safle preswyl y Ffriddoedd, Ffordd y Ffriddoedd, rhwng 11am a 5pm ar ddydd Iau 20 Hydref. Bydd bysiau gwennol o faes parcio鈥檙 Brifysgol yn Ffordd y Deon yn cludo ymwelwyr i鈥檙 bws. Caiff mwy o fanylion eu cyhoeddi ac fe fyddant ar gael o Undeb y Myfyrwyr ar 01248 388000 yn yr wythnosau i ddod.
Dywedodd Danielle Giles, Is-Lywydd Chwaraeon a Byw鈥檔 Iach Undeb y Myfyrwyr, 鈥淩ydym yn falch iawn o groesawu Taith Coca-Cola y Ffagl Olympaidd i鈥檙 Brifysgol mewn cydnabyddiaeth o gyfraniad cadarnhaol pobl ifanc yr ardal. Dyma鈥檙 cam cychwynnol mewn cyfres gyffrous o ddigwyddiadau byddwn yn eu cynnal ar gyfer pobl ifanc yn y gymuned yn y misoedd yn arwain at ymweliad y Fflam Olympaidd gwanwyn nesaf. Byddwn yn trefnu nifer o ddigwyddiadau chwaraeon gan gynnwys sesiynau blasu mewn amrywiaeth o chwaraeon ar gyfer plant ysgol lleol. Rydym wrth ein bodd fod pobl 黑料不打烊 yn cael y cyfle i ddathlu a chofleidio delfrydau鈥檙 Gemau Olympaidd.鈥
Dywedodd Jo Caulfield, Llywydd yr Undeb: 鈥淢ae ymweliad y ffagl Olympaidd i Fangor yn achlysur gwirioneddol hanesyddol i ni. Mae鈥檔 fraint i鈥檔 cymuned allu bod yn rhan o daith y ffagl sy鈥檔 hyrwyddo diddordeb a chynnwrf byd-eang ym mhob agwedd o chwaraeon ac ymdrechion corfforol.鈥
Dywedodd Maer 黑料不打烊, y Cynghorydd Hugh Williams 鈥淩wy鈥檔 falch fod Undeb y Myfyrwyr wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais a bydd y digwyddiad hwn o fudd i Fangor a鈥檙 cylch ehangach. Mae鈥檔 beth rhagorol i鈥檙 Brifysgol a鈥檙 gymuned ehangach.鈥
Dylai ysgolion sy鈥檔 dymuno cymryd rhan yn y digwyddiad hwn a digwyddiadau diweddarach gysylltu ag olympictorch@undeb.bangor.ac.uk am wybodaeth bellach.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2011